Tîm dalgylch TarddLe yn ffurfio partneriaeth â CFfI Cymru


Mae tîm Dalgylchoedd Dŵr Cymru’n gweithio gyda llawer o wahanol bobl, gan gynnwys ffermwyr a choedwigwyr, grwpiau cymunedol a chwsmeriaid, mewn ymdrech i newid sut rydyn ni i gyd yn gofalu am ein tir. TarddLe yw'n henw ni ar hyn.

Mater o atal yn hytrach na gwella yw TarddLe. Rydyn ni am sicrhau bod ein dŵr o'r safon uchaf  bosibl cyn iddo gyrraedd ein gweithfeydd trin. Bydd hyn yn golygu bod modd defnyddio llai o gemegolion a llai o ynni i drin y dŵr.

Gyda hynny mewn golwg, mae'r tîm wedi cychwyn partneriaeth blwyddyn o hyd gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Cymru er mwyn codi proffil TarddLe ymysg ei 5,500 o aelodau rhwng 10 a 26 oed. 

“Bydd y cytundeb partneriaeth yn caniatáu i ni rannu gwybodaeth, profiadau ac arferion da am sut y gallwn ni weithio gyda ffermwyr y dyfodol i amddiffyn safon ac ansawdd dŵr crai," meddai'r rheolwr cyflawni Dalgylchoedd, Sophie Straiton. "Bydd CFfI Cymru'n rhannu ein negeseuon gyda'i aelodau ac yn helpu i hwyluso gweithdai sy'n cynnig cyfle i feithrin cysylltiadau go iawn a denu adborth. Mae tîm cyfan TarddLe’n edrych ymlaen at drefnu'r gweithgareddau hyn a fydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd.”

Mae CFfI Cymru yn croesawu'r cyfle i unigryw hwn i gydweithio â'r tîm. 

Dywedodd Cadeirydd y mudiad, Katie Davies: "Mae CFfI Cymru'n ddiolchgar iawn am gefnogaeth Dŵr Cymru eto eleni. Wrth edrych ymlaen tua 2021, rydyn ni'n gyffrous am y wybodaeth a'r profiadau newydd y bydd tîm TarddLe'n eu rhannu â'n haelodau trwy gyflwyno gweithdai a gweminarau, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at gael helpu i hwyluso dialog rhwng Dŵr Cymru a ffermwyr y dyfodol yng Nghymru.”