Canllawiau i'r Sector Amwynder


Rydyn ni'n gwybod bod plaladdwyr yn chwarae rôl hanfodol ar gyfer pobl sy’n eu defnyddio yn rhan o’u gwaith pob dydd.

Er eu bod yn cael eu rheoleiddio'n dynn, mae yna berygl y gall plaladdwyr effeithio ar bobl, dŵr a bywyd gwyllt os nad ydyn nhw'n cael eu storio, eu defnyddio neu eu gwaredu yn y ffordd gywir. 

Nod ein menter PestSmart yw lleihau'r risg bod plaladdwyr yn ffeindio'u ffordd i mewn i gyrsiau dŵr. Rydyn ni'n gwybod bod pawb yn gallu chwarae eu rhan yn hynny o beth, felly rydyn ni wedi llunio deunyddiau i godi ymwybyddiaeth am arferion da, ac wedi cynnwys ambell i ddolen at fanylion pellach isod.

Natural Resources Wales Pack

PDF, 152.9kB

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn ddigidol o'r pecyn gwybodaeth.

Gweithredu yn ymyl dŵr neu ar safle a amddiffynnir?

Os felly, mae'n bosibl y bydd arnoch angen cytundeb gyda'r rheoleiddiwr amgylcheddol cyn y gallwch ddechrau unrhyw waith. Gweler y dolenni i'r asiantaeth berthnasol isod.

Gwybodaeth bellach

Cyhoeddiadau  Sefydliadau 
Best Practice Guidance – The “10 Golden Rules” 
(Amenity Forum)
 Amenity Forum
www.amenityforum.co.uk
Guidance on storing pesticides for farmers and other professional users
(HSE)
Health and Safety Executive
www.hse.gov.uk
Code of Practise for Invasive Non-Native Species Control Provisions in Wales
(Llywodraeth Cymru)
Llywodraeth Cymru
www.llyw.cymru

Chwyn niweidiol a rhywogaethau estron
(Llywodraeth Cymru) 

Natural Resources Wales
www.naturalresources.wales
  National Sprayer Testing Scheme
www.nsts.org.uk

Lawrlwythiadau sydd ar gael

Llyfryn PestSmart - Canllawiau ir Sector Amwynder

Lawrlwytho
1.4MB, PDF

Poster arferion gorau A4 iw argraffu

Lawrlwytho
712.9kB, PDF