Y Treial Llogi Chwistrellau Chwyn


Trwy bartneriaeth â Dalton's ATVs, fe gynigion ni'r cyfle i ffermwyr logi chwistrell chwyn am ddim am 3 diwrnod rhwng Ebrill a Hydref. Ein nod oedd lleihau'r risg bod chwynladdwyr yn mynd i gyrsiau dŵr.

Mae'r chwistrell chwyn yn effeithiol wrth reoli brwyn a chwyn glaswelltir eraill. Trwy roi glyffosad yn uniongyrchol ar y chwyn targed, mae’n atal y chwynladdwyr rhag lledu - ac yn defnyddio llai o gemegolion, sy'n arbed arian.

Cadwch mewn cysylltiad!

Er bod ein treial llogi chwistrellau chwyn am ddim wedi dod i ben, does dim rhaid ffarwelio! Rydyn ni wedi creu pecyn o wybodaeth ddefnyddiol am y chwistrell chwyn a rheoli brwyn ar eich tir.

I wneud cais am becyn a chofrestru i gael newyddion am ddatblygiadau, cliciwch ar y botwm isod.

Anfonwch becyn

Sut mae cael chwistrell chwyn?

Dywedodd 96% o'r rhai a gymerodd ran bod y chwistrell chwyn yn hawdd i'w ddefnyddio, felly rydyn ni am annog cynifer o bobl â phosibl i roi cynnig arni. Beth am geisio?

  • Llogi peiriant
  • Prynu eich un eich hun
  • Cyflogi contractwr
  • Ymuno â chylch peiriannau
  • Benthyg gan ffrind neu gymydog

Ydych chi'n gymwys?

Cofiwch fod angen i chi fod wedi cael hyfforddiant PA2F neu hyfforddiant cyfatebol i ddefnyddio chwistrell chwyn.

Holwch Cyswllt Ffermio am wybodaeth am hyfforddiant a grantiau a allai fod ar gael i chi.

Pwy oedd yn gymwys?

Roedd rheolwyr tiroedd yn yr ardaloedd canlynol gymryd rhan yn ein treial Chwistrell Chwyn am ddim.

1. Afon Teifi, i fyny'r llif o Lechryd
2. Afon Gwy, i fyny'r llif o Lyswen
3. Afon Tywi, i fyny'r llif o Nantgaredig

Sylwch: Mae'r ffenestr cofrestru ar gyfer llogi chwistrell chwyn am ddim wedi gau ond gallwch chi gofrestru i dderbyn diweddariadau ar unrhyw gynlluniau sy’n rhedeg y dyfodol yma.

Pam wnaethon ni hyn

Mae annog rheolwyr tiroedd i ddefnyddio chwistrell chwyn yn fanteisiol i ni am ei fod wedi ei drwyddedu i’w defnyddio gyda glyffosad yn unig, sy'n cymryd llai o amser o lawer i ddadelfennu mewn dŵr nac MCPA, sef y cemegolyn a ddefnyddir amlaf wrth chwistrellu o bolyn.

Yn 2013, datgelodd ein rhaglen gyffredin o waith monitro dŵr olion cynyddol o blaladdwyr mewn ardaloedd lle nad ydym wedi eu gweld o'r blaen. Er bod y lefelau hyn yn rhy isel i beryglu’r bobl sy'n yfed y dŵr, maen nhw'n ddigon i beryglu mynd yn groes i'r safonau llym a bennwyd o ran dŵr yfed, felly rydyn ni am weithio gyda chi i gymryd camau a thaclo'r broblem gyda'n gilydd.

Trwy weithio mewn partneriaeth â ffermwyr, rheolwyr tir ac eraill, fe greon ni ein menter chwistrell chwyn rhad ac am ddim sy'n fuddiol i'r gymuned amaeth a Dŵr Cymru.

Gallwch glywed rhagor am pam ddechreuon ni'r treial yn y ffilm fer isod:

Sylwadau Cwsmeriaid

Gyda’r Chwistrell Chwyn rhoddir y cemegolyn yn uniongyrchol ar y chwyn, sy'n lleihau'n sylweddol faint o'r cemegolyn sy'n lledu ar y gwynt. Glyffosad yw'r unig gemegolyn a drwyddedir i'w ddefnyddio mewn chwistrell chwyn. Mae glyffosad yn cymryd llai o amser o lawer i ddadelfennu mewn dŵr nac MCPA, sef y cemegolyn a ddefnyddir wrth chwistrellu o bolyn fel rheol.

Mae'r ffermwyr sydd wedi cymryd rhan yn y treial yn dweud bod y chwistrell chwyn yn hawdd i'w ddefnyddio a'i fod yr un mor effeithiol â dulliau cemegol eraill o reoli brwyn a chwyn glaswelltir eraill fel ysgall.

90% yn teimlo bod y chwistrell chwyn yn hawdd i’w ddefnyddio

86% yn hapus i ddefnyddio chwistrell chwyn eto

Argymhellion am Chwistrellu Chwyn

PDF, 160.2kB