Prosiect Dalgylch Pentywyn
Yn 2016, byddwn ni'n gweithiogydag amaethwyr a'r gymuned leol yn Nalgylch Pentywyn, Sir Gâr, er mwyn amddiffyn y dŵr sy'n cael ei godi at ddibenion yfed.
Beth yw’r broblem?
Mae ein twll turio ym Morfa Bychan yn cael ei ddefnyddio i gyflenwi dŵr yfed i’n cwsmeriaid yn yr ardal. Mae gwaith monitro rheolaidd yn y twll turio yn dangos bod gweithgareddau ar dir yn y dalgylch yn effeithio ar ansawdd y dŵr. Yn aml, mae achosion yn codi lle mae lefel y maethynnau’n uchel a chredwn y gallai hyn gael ei achosi gan weithgareddau amaethyddol fel dŵr ffo budr o gaeau neu fuarthau. Mae angen triniaeth ychwanegol ar y dŵr er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn caell dŵr yfed o safon uchel.
Sut y gallwch chi helpu?
Os ydych chi'n ffermio yn yr ardal, mae angen eich cymorth chi arnom i ganfod pa risgiau sydd yn y dalgylch o ran ansawdd dŵr, a beth y gellir ei wneud i leihau'r rhain.
Gan weithio gydag ADAS, yr ymgynghorwyr amaeth annibynnol, rydyn ni'n cynnig ARCHWILIADAU IECHYD RHAD AC AM DDIM O FFERMYDD i holl amaethwyr y dalgylch. Gall y cyngor a roddir gynnwys:
- Adnabod mannau mewn caeau lle ceir peryglon e.e. llyncdyllau
- Storio Slyri a Silwair
- Gwahanu dŵr glân a dŵr budr
- Defnydd effeithlon o faethynnau
- Cydymffurfio ag SSAFO
- Gwasgaru/Amseru
- Lleihau costau
- Plaleiddiaid
Rhagor o wybodaeth a chyngor
Ebost: watersource@dwrcymru.com