TarddLe


Gofalu am dir, afonydd a chronfeydd er mwyn amddiffyn eich dŵr yfed am flynyddoedd mawr i ddod.

Pa newydd?

PDF, 1.6MB

Yn y rhifyn hwn byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith y mae ein tîm wedi bod yn ei wneud yn ogystal â gwybodaeth am ein gweithgareddau ymgysylltu cymunedol.

Stori TarddLle

Mae dŵr ym mynd ar dipyn o siwrnai cyn cyrraedd ein cronfeydd.

O gwmwl yn yr awyr, mae pob diferyn o law yn llifo o'r tir ac yn ffeindio'i ffordd i mewn i nentydd, afonydd ac i mewn i'n cronfeydd dŵr.

Ar hyd y ffordd, gallai ddod ar draws pethau a fydd yn effeithio ar ei burdeb - anifeiliaid pori, tocio coed, cemegolion sy'n helpu bwyd i dyfu, neu hyd yn oed pobl sy'n cerdded y bryniau - ac mae hyn oll yn golygu nad yw'r dŵr sy'n llifo i'n cronfeydd mor bur ag y gallai fod.

Felly mae angen i ni ddefnyddio mwy a mwy o gemegolion ac ynni i'w wneud yn berffaith i'n cwsmeriaid ei yfed. Mae hyn yn costio mwy o arian ac mae'n gallu niweidio ein hamgylchedd.

Dyna pam ein bod ni'n gweithio gyda ffermwyr, grwpiau cymunedol a chwsmeriaid i newid sut rydyn ni'n gofalu am y tir. TarddLe yw'n henw ar hyn.

Beth yw TarddLe?

Ffordd newydd o ofalu am y tir o amgylch ein hafonydd, ein cronfeydd a'n moroedd er mwyn amddiffyn ein dŵr yfed nawr, ac am flynyddoed mawr i ddod yw TarddLe.

Rydyn ni wedi chwilio ym mhedwar ban y byd am y syniadau gorau, ac rydyn ni'n rhoi cynnig ar rai o'n syniadau newydd ein hunain er mwyn helpu i wella ansawdd ein dŵr cyn iddo gyrraedd ein cronfeydd.

Bydd hyn yn golygu y gallwn ddefnyddio llai o gemegolion ac ynni i drin dŵr yfed. Mae hynny'n newyddion da i'n cwsmeriaid ac i'n hamgylchedd prydferth.

Gall ffermwyr, perchnogion tir a cherddwyr oll helpu i chwarae eu rhan.

Egwyddorion TarddLe

Ein dull o reoli dalgylchoedd

Atal yn lle gwella

Nod ein dull o weithredu yw sicrhau bod ansawdd y dŵr cystal ag y gall fod cyn cyrraedd y gweithfeydd trin fel ein bod ni’n gallu defnyddio llai o emegolion ac ynni i’w drin.

Ar sail tystiolaeth

Mae cyflawni gwaith samplo, astudiaethau ac ymchwil yn ein helpu ni i fynd at wraidd problemau, a dod o hyd i atebion sy’n addas at eu pwrpas.

Y peth iawn i’n cwsmeriaid

Mae gwella ansawdd dŵr tra’i fod yn dal i fod yn yr amgylchedd yn gofyn am lai o adnoddau trin. Mae hynny’n helpu i gadw biliau’n isel ac yn amddiffyn yr amgylchedd ehangach.

Cynhwysol a chydweithredol

Rydyn ni am weithio gyda’r bobl, y busnesau a’r cymunedau sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’n dalgylchoedd er mwyn diogelu ein hadnoddau dŵr nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Llu o fanteision

Mae cydweithio i ddiogelu ansawdd dŵr yn cynnig pob math o fanteision ychwanegol – rydyn ni’n helpu gydag effeithlonrwydd ffermydd, bioamrywiaeth, coedwigaeth, twristiaeth ac yn diogelu ein hadnoddau naturiol ar gyfer y dyfodol.