Prosiect Adfer Dalgylch Tywi Uchaf, Ymddiriedolaeth Afonydd Sir Gâr


Ar un adeg, Afon Tywi oedd un o bysgodfeydd salmonid ymfudol gorau Cymru a Lloegr, ond ddechrau’r 1980au, cafwyd ei bod dan fygythiad oherwydd effeithiau asideiddio.

Nod Ymddiriedolaeth Afonydd Sir Gâr yw atal dirywiad pysgodfeydd trwy leihau asideiddio trwy ddogni calch a hyrwyddo gwelliannau i’r cynefinoedd a’r bywyd gwyllt sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd dyfrol. “Y nod pennaf yw adfer neu wella ecoleg yr afonydd yn Sir Gâr a’u pysgodfeydd mewn ffordd sy’n darparu’r cynnydd mwysaf posibl mewn bioamrywiaeth, a manteision ar gyfer y gymuned wledig”.

Dyfarnodd Dŵr Cymru gyllid ar gyfer Prosiect Adfer Dalgylch Tywi Uchaf er mwyn hwyluso dogni calch rheolaidd, a hwyluso ymgysylltiad y gymuned yn y gwaith o wella’r amgylchedd er mwyn eu pleser eu hunain. Gobaith Ymddiriedolaeth Afonydd Sir Gâr yw y bydd y prosiect yn hyrwyddo hamdden a thwristiaeth awyr agored.

Mae ansawdd y dŵr yn cael ei fonitro ar nifer o safleoedd er mwyn asesu pa mor effeithiol yw’r prosiect. Hyd yn hyn, mae’r astudiaethau’n dangos gwelliannau o ran ansawdd y dŵr a strwythur yr ecosystem.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect YMA.