Prosiect Llygredd Gwasgaredig Canol Afon Dyfrdwy


Nod Prosiect Llygredd Gwasgaredig Canol Afon Dyfrdwy yw lleihau faint o ffosffadau a llygryddion gwasgaredig eraill sy'n llifo i'r cyrsiau dŵr yn is-ddalgylch afonydd Wrddymbre ac Elfe.

Nod y prosiect yw cyflawni hyn trwy ymweld â ffermydd penodol er mwyn adolygu a thrafod eu harferion wrth reoli dŵr glân a dŵr brwnt.

Caiff yr ymweliadau cynghori â'r ffermydd eu hategu gan Gynlluniau Gwella Rheolaeth ar Ddŵr (WMIP) a gaiff eu teilwra'n benodol. Bydd y rhain yn pennu'r camau blaenoriaeth ar gyfer y safle, gan amlygu'r materion amgylcheddol a'r costau/manteision i fusnes y fferm. Caiff WMIP eu llunio gyda'r nod o leihau faint o ffosffadau a llygryddion eraill sy'n llifo i'r 4 corff dŵr.

Bydd y prosiect yn cynhyrchu templed ar gyfer y prosiect hefyd. Bydd modd efelychu'r templed ar draws y dalgylch ehangach a gall sefydliadau eraill sy'n cyflawni prosiectau tebyg ei ddefnyddio.