Afonydd Iach, Groundwork Caerffili


Nod y rhaglen Afonydd Iach yw gwneud gwelliannau amgylcheddol i nifer o afonydd yng nghymoedd y de, er mwyn gwella eu statws ecolegol o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD).

Yn 2011, roedd dau o bob tri o ardaloedd dyfrol Cymru’n methu ag ennill ‘statws ecolegol da’ o dan y WFD. Roedd y mwyafrif yn methu am fod ganddynt boblogaeth fechan o bysgod ymfudol, fel eogiaid a brithyll. Mae seilweithiau y mae pobl wedi eu hadeiladu ar draws afonydd, fel coredau a phibellau carthffosiaeth, yn creu rhwystrau na all pysgod ymfudol eu pasio er mwyn silio a bridio’n llwyddiannus. Bydd y rhaglen Afonydd Iach yn gweithredu yn Nant Bargoed, y Rhondda Fawr a’r Rhondda Fach er mwyn addasu neu waredu 7 rhwystr i bysgod ymfudol. Bydd dileu neu addasu’r rhwystrau yn gadael i’r pysgod ymfudol nofio i fyny’r afon yn llwyddiannus er mwyn bridio.

Bydd y rhaglen Afonydd Iach yn gweithio gyda 6 ysgol leol hefyd er mwyn cyflawni’r prosiectau ‘Ysgolion yr Afon’ ac ‘Eog yn y Dosbarth’ y mae Groundwork Gogledd Cymru’n eu cynnal ar hyn o bryd. Bydd rhaglen Ysgolion yr Afon yn ymgysylltu plant mewn gweithgareddau sy’n seiliedig ar afonydd, fel samplo i ddod o hyd i bryfed yr afon, mesur llif yr afon a gwneud gwelliannau i gynefinoedd yr afon. Mae prosiect yr Eog yn y Dosbarth yn cynnwys sefydlu deorfa eogiaid graddfa fechan yn Ystafell Ddosbarth Groundwork. Bydd y prosiect yn gwahodd ysgolion cynradd lleol i weld yr wyau a’r pysgod yn datblygu. Bydd y prosiect hwn yn helpu’r plant i ddysgu am gylch bywyd yr eog, ac am rai o’r materion amgylcheddol sy’n effeithio ar eu goroesiad. Pan fo’r eogiaid yn ddigon mawr, bydd y plant yn eu rhyddhau i afonydd lleol.

Yn olaf, bydd y rhaglen Afonydd Iach yn hyrwyddo ac yn hwyluso cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer pobl leol a grwpiau cymunedol lleol. Bydd Afonydd Iach yn cynnal sesiynau glanhau afonydd a chasglu sbwriel, ac yn annog gwirfoddolwyr i gymryd rhan ynddynt.

Mae’r rhaglen Afonydd Iach eisoes wedi bod yn llwyddiannus trwy’r gwaith a gyflawnwyd ar afon Sirhywi, lle mae dileu’r rhwystrau wedi gadael i’r eogiaid ymfudo a bridio’n llwyddiannus am y tro cyntaf ers 100 mlynedd. Mae’r prosiect Eog yn y Dosbarth wedi bod yn boblogaidd gydag ysgolion cynradd, ac mae dros 50 o wirfoddolwyr mewn oed wedi cymryd rhan mewn prosiectau i wella afonydd.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect YMA