Tirweddau Byw Alun a Chwiler, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru


Ers blynyddoedd lawer, mae’r ardal ym mharthau uchaf Afon Alun ac Afon Chwiler wedi cael eu dynodi yn fannau pwysig ar gyfer bioamrywiaeth, ac felly cawsant eu dethol ar gyfer datblygiad prosiect ‘Tirweddau Byw’.

Mae’r ardal yn cynnal amrywiaeth eang o gynefinoedd pwysig, y mae llawer ohonynt wedi cael eu dynodi’n ACA, SoDdGA a/neu’n warchodfeydd natur.

Darparodd Dŵr Cymru gyllid cyfatebol ar gyfer yr astudiaeth i bennu cwmpas y prosiect. Ar ôl cwblhau'r astudiaeth pennu cwmpas, llwyddodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru i ddiogelu cyllid gan WREN i gyflawni rhan 1 o'r prosiect Tirweddau Byw, a darparodd Dŵr Cymru gyllid cyfatebol yn hyn o beth.

Pwrpas prosiect Tirweddau Byw Alun a Chwiler yw cynyddu’r cysylltiadau rhwng y gwahanol gynefinoedd a leolir ar hyd coridorau’r afonydd, ac yn y dyffrynnoedd. Trwy adfer, ail-greu ac ailgysylltu cynefinoedd pwysig, gwneir gwelliannau hefyd i; wasanaethau’r ecosystemau hanfodol y mae’r cynefinoedd hyn yn eu darparu, ansawdd y dŵr, a chyflawni amcanion yr WFD.