GlawLif


Yma yn Dŵr Cymru, rydyn ni ar flaen y gad wrth ddatblygu atebion newydd ac arloesol i reoli faint o ddŵr wyneb sy’n llifo i’n carthffosydd, a’u rhoi ar waith. GlawLif yw’n henw ar y dull hwn o weithredu.

Rydyn ni’n bwriadu buddsoddi mwy a mwy yn GlawLif, tua £80 miliwn hyd at 2020.

Bydd yn helpu i leihau’r perygl o lifogydd carthffosiaeth a llygredd, ac yn cynyddu cynhwysedd ein rhwydwaith o garthffosydd; a

Bydd yn helpu i gynnal datblygiad economaidd ac yn amddiffyn ein cwsmeriaid rhag y newid yn yr hinsawdd.

Beth yw’r broblem?

Carthffosydd un bibell yw’r rhan fwyaf o’n rhai ni, sy’n golygu bod yn rhaid i bob pibell ymdopi â dŵr wyneb a dŵr budr. Mae hyn yn golygu na all ein rhwydwaith ymdopi â’r holl ddŵr mewn cyfnodau o law trwm ac mae hyn yn cynyddu’r perygl o lifogydd carthffosiaeth. Byddai datrys y broblem hon gan ddefnyddio dulliau traddodiadol, fel adeiladu tanciau storio a gosod pibellau ychwanegol yn gostus, ac ni fyddai’n gynaliadwy. Ni fyddai hynny’n mynd at wraidd y broblem chwaith, sef bod gormod o ddŵr yn mynd i’r carthffosydd.

Mae’r cynlluniau GlawLif rydyn ni wedi eu datblygu yn lleihau faint o ddŵr wyneb sy’n mynd i mewn i’r carthffosydd ac yn dal, yn dargyfeirio ac yn arafu llif y dŵr i mewn i’r rhwydwaith, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau rydyn ni’n eu galw’n ‘Atebion GlawLif’.

Beth yw’r ateb?

Ar ôl dysgu gwersi gan gynlluniau dŵr wyneb rhyngwladol ym Malmö (Sweden) a Portland (Oregon, UDA), aethon ni ati i greu ein mathau ein hunain o atebion cynaliadwy i reoli dŵr wyneb, ac rydyn ni’n galw’r rhain yn atebion GlawLif. Gellir ymgorffori’r atebion hyn i ddatblygiadau newydd, neu eu gosod ar y systemau carthffosiaeth sy’n bodoli eisoes. Mae’r atebion yn cynnwys:

  • Basnau a Mannau Plannu: Basnau bas sy’n cydweddu i’r dirwedd yw’r rhain. Maent yn storio ac yn trin y glawlif sy’n llifo oddi ar doeau a ffyrdd. Mae’r dŵr yn ymdreiddio trwy’r planhigion yn y basn, gan gael gwared ar unrhyw lygredd, cyn cael ei ryddhau’n raddol bach yn ôl i’r pridd neu i’n rhwydwaith o garthffosydd. Mae’r rhain yn gallu bod yn fach, a gellir eu cysylltu â phibellau draenio unigol, neu gallant fod yn fwy er mwyn casglu glawlif o’r ffyrdd.
  • Pantiau: Sianeli hir, bas sy’n cydweddu i’r dirwedd yw’r rhain. Eu pwrpas yw arafu cyflymdra llif y dŵr wyneb - gan ei lanhau a gadael iddo ymdreiddio’n raddol bach i’r pridd. Lle nad oes modd i’r dŵr ymdreiddio i’r tir, mae’r pantiau’n dychwelyd y dŵr i’n rhwydwaith o garthffosydd yn arafach.
  • Palmentydd hydraidd: Dyma fath arbennig o gerrig palmant sydd wedi eu dylunio i adael i’r dŵr dreiddio drwyddynt, yn hytrach na llifo drostynt i mewn i’r draeniau cyfagos. Mae pob math o ddyluniadau deniadol i’r palmentydd hydraidd yma.
  • Stribedi hidlo: Stribedi o dir sy’n dal dŵr sy’n rhedeg oddi ar safle yw’r rhain. Maent yn galluogi i rywfaint o’r dŵr suddo i’r ddaear ac mae’r gweddill yn aml yn mynd i mewn i bant neu system draenio drefol gynaliadwy arall.
  • Sianeli glaswelltog: Stribedi o laswellt yw’r rhain a gellir eu gosod mewn strydoedd ymyl ac yn lonydd cefn terasau o dai er mwyn darparu arwyneb hydraidd y gall dŵr wyneb ymdreiddio iddo.
  • Storfeydd danddaear: Gellir defnyddio systemau storio danddaear i reoli llif dŵr wyneb, naill ai ar ffurf suddfannau dŵr neu danciau storio dŵr. Gellir gosod y rhain o dan ffyrdd a chyrbiau, ac maent yn helpu i arafu cyflymdra llif dŵr wyneb i mewn i’r rhwydwaith o garthffosydd.

Y Manteision

  • Bydd yr amgylchedd lleol yn fwy deniadol a chaiff cynefinoedd newydd eu creu.
  • Os oes llai o ddŵr yn mynd i’r carthffosydd, bydd llai o berygl o lifogydd carthffosiaeth.
  • Mae hyn yn gynaliadwy ac yn rhatach na’r dulliau traddodiadol – gan ein helpu ni i gadw biliau ein cwsmeriaid yn isel.
  • Bydd hyn yn helpu ein cymunedau i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd.

Eich cynnwys chi

Rydyn ni am gynnwys cwsmeriaid yn y gwaith o ddylunio ein cynlluniau GlawLif. Byddwn ni’n cynnal sesiynau galw heibio gyda chwsmeriaid sy’n byw’n agos at ddarpar-gynlluniau newydd. Cewch gyfle i ddweud eich dweud a dylanwadu ar ein cynlluniau yn ystod y sesiynau hyn.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: glawlif@dwrcymru.com

Am fwy o wybodaeth am beth allwch chi ei wneud i helpu, ymwelwch a’r dudalen yma.