Panel Ymgynghorol Annibynnol ar yr Amgylchedd i Dŵr Cymru


Fel rhan o’r broses o roi rhaglen ‘Cymru Fyw’ Llywodraeth Cymru ar waith, sefydlwyd y Panel Cynghori Amgylcheddol Annibynnol (IEAP) i helpu Dŵr Cymru i (i) sicrhau bod y cwsmeriaid a’r amgylchedd yn cael y gwerth gorau o’i raglen fuddsoddi, a (ii) sicrhau dyfodol diogel a chynaliadwy i’n hamgylchedd; un a all gynnal yr economi ac ansawdd bywyd am genedlaethau i ddod.

Yn ogystal ag ystyriaethau amgylcheddol, bydd y Panel yn talu sylw i ganlyniadau cymdeithasol ac economaidd unrhyw gyngor a gynigiant, yn cynnwys yr effaith y gallent ei chael ar ‘fforddiadwyedd’ unrhyw fuddsoddiadau y mae Dŵr Cymru’n eu gwneud o ganlyniad i’r cyngor hwnnw.

Mae aelodau’r Panel yn cynrychioli nifer o sefydliadau amgylcheddol rheng-flaen yng Nghymru a Lloegr. Yn ogystal, maent yn cynnwys academyddion blaenllaw o Gymru a Lloegr i gefnogi gallu gwyddonol Dŵr Cymru ac felly sicrhau bod pob punt o arian ei gwsmeriaid yn cael ei buddsoddi yn y ffordd sy’n cynnig y gwerth gorau.

Mae aelodau’r Panel yn cynrychioli barn eu sefydliadau nhw, yn annibynnol ar Ddŵr Cymru.

Nid oes bwriad i’r Panel fod yn glwb ‘caeedig’ neu ‘ecscliwsif’. Gall unigolion a chyrff nad ydynt yn aelodau o’r Panel godi mater amgylcheddol i’w drafod gyda’r Cadeirydd. Gwahoddir arbenigwyr o’r tu allan i aelodaeth y Panel i gyfrannu at faterion penodol yn ôl yr angen. Yn ogystal, bydd y Panel yn sefydlu ‘Grwpiau Gorchwyl a Gorffen’ i helpu gyda materion technegol.

Cylch Gorchwyl

Mae Cylch Gorchwyl y Panel ar gael i’w weld yma. Cytunodd yr holl aelodau iddo a chafodd ei fabwysiadu’n ffurfiol ym mis Tachwedd 2012. Mae’r Panel yn ei adolygu bob blwyddyn.

Cod Ymddygiad

Mae’r Panel wedi cytuno i’r Cod Ymddygiad, yn ogystal â’r Cylch Gorchwyl, ac wedi’i fabwysiadu. Mae’r Cod Ymddygiad yn rhoi fframwaith y mae’n ofynnol i aelodau a sylwedyddion y Panel lynu ato. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn teimlo y gallant drafod yn rhydd ac yn onest a rhannu barn a gwybodaeth. Mae’r Cod Ymddygiad ar gael i’w weld yma.

Swyddogaeth IEAP

Bydd aelodau’r Panel yn cydweithio â Dŵr Cymru ac yn rhannu arbenigedd a gwybodaeth am yr amgylchedd er mwyn gwneud y pethau isod:

  • Cyfrannu at y broses o gynllunio buddsoddiad cyfalaf Dŵr Cymru trwy gynnig barn ac arweiniad. Dylai hyn, yn ei dro, ostwng costau i’r cwsmeriaid a sicrhau bod Dŵr Cymru’n dal ar flaen y gad o ran wynebu heriau amgylcheddol yn y dyfodol.
  • Sicrhau dull cyfathrebu syml ac effeithlon rhwng y Cwmni a’i randdeiliaid amgylcheddol alweddol.
  • Cynnig llwyfan i rannu barn a helpu Dŵr Cymru i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth a pholisïau amgylcheddol sy’n cael eu datblygu lle gwelir manteision cymdeithasol, economaidd a/neu amgylcheddol i Gymru a/neu’r gororau.

Pwy sydd ar IEAP?

Aelodau

  • Maent yn cynrychioli buddiannau eu sefydliadau nhw’u hunain.
  • Mae ganddynt arbenigedd a diddordebau eang sy’n berthnasol i faes rheoli’r amgylchedd.
  • Mae angen eu cyfraniad er mwyn gwireddu amcanion y Panel.
  • Maent yn fodlon ymdrechu i gyflawni diben y Panel.
  • Maent yn gallu rhoi cyngor clir a diduedd i Dŵr Cymru, yn unol â phwrpas y Panel.
  • Maent yn gallu dylanwadu ar eraill ar ran Dŵr Cymru, ar y materion y mae’r Panel yn cytuno eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau amgylchedd cynaliadwy.

Sylwedyddion

Unigolyn neu sefydliad sydd ag arbenigedd a fyddai’n ddefnyddiol i’r Panel a’i grwpiau gorchwyl a gorffen. Mae gan sylwedyddion ddiddordeb yng ngwaith IEAP ac maent yn dymuno cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Yn aml, mae ganddynt fuddiant masnachol yn yr amgylchedd. Nid oes raid iddynt ddod i gyfarfodydd y Panel.

Dŵr Cymru

Mae’r cwmni’n gweithredu fel sylwedydd yn y Panel ac fel ysgrifenyddiaeth IEAP.

Y Cadeirydd Annibynnol a’r Dirprwyon

Penodwyd y Cadeirydd Annibynnol a’r Dirprwyon trwy bleidlais mwyafrif aelodau’r Panel.

Cadeirydd - Mari Arthur, Cyfarwyddwr Cynnal Cymru.

Is-Gadeirydd - Katie-Jo Luxton, Cyfarwyddwr, RSPB Cymru a Michael Christie, Athro Economeg Amgylcheddol ac Ecolegol, Prifysgol Aberystwyth.

Manylion Cysylltu

 Os oes gennych ryw gwestiwn am IEAP, gallwch gysylltu ag aelodau’r Panel neu ebostio IEAP@dwrcymru.com.