Dyfroedd Ymdrochi


Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i’r amgylchedd o ddifrif ac mae hynny’n cynnwys helpu i ddiogelu ein dyfroedd ymdrochi dynodedig. Mae Cymru’n gartref i dros draean o ddyfroedd ymdrochi’r DU, y rhan fwyaf ohonynt o’r safon uchaf.

Beth yw Dyfroedd Ymdrochi?

Mae dyfroedd ymdrochi dynodedig yn safleoedd sydd wedi mynd trwy broses gais i’w cydnabod o dan Reoliadau Dŵr Ymdrochi/(Cyfarwyddeb) (2013) fel safle ar gyfer ymdrochi/nofio. Ar ôl eu dynodi, mae’r safleoedd hyn wedyn yn destun profi a chyhoeddi canlyniadau. Heb ddynodi, nid oes monitro rheoleiddio.

Pwy sy’n gofalu am ein dyfroedd ymdrochi dynodedig?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Asiantaeth yr Amgylchedd (EA) yn profi dyfroedd ymdrochi dynodedig yn ystod y tymor dŵr ymdrochi (canol mis Mai hyd at fis Medi) i chwilio am 2 fath o facteria (Escherichia coli ac Enterococci y Coluddyn). Dim ond lefelau bacteria sy’n cael eu hystyried wrth asesu ansawdd dŵr ymdrochi. Mae lefel y bacteria sy’n cael ei mesur, wedi’i chyfrif dros gyfnod o 4 blynedd, yn pennu statws y dosbarthiad. Da, Digonol a Gwael yw’r dosbarthiadau hyn. Gallwch weld mwy am eich dosbarthiad dŵr ymdrochi lleol, agweddau eraill a allai effeithio ar ansawdd dŵr ymdrochi a data profi ar wefan CNC yma.

Sut mae Dŵr Cymru yn helpu i ddiogelu dyfroedd ymdrochi?

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am reoli dyfroedd ymdrochi ac rydym yn helpu i’w diogelu. Mae ein rheoleiddwyr yn rhoi trwyddedau i’n hasedau dŵr gwastraff gyda’r amodau angenrheidiol i ddiogelu ansawdd dŵr y corff dŵr sy’n ei dderbyn.

Efallai y bydd gofyniad ychwanegol gennym i ddiheintio ein helifion wedi’u trin ger dyfroedd ymdrochi dynodedig. Rydym yn defnyddio dulliau fel golau UV i ladd unrhyw facteria a fyddai’n niweidiol i bobl wrth ymdrochi pe ystyrir yn angenrheidiol i amddiffyn y dŵr ymdrochi. Mae ein helifion yn cael eu profi’n rheolaidd ac adroddir arnynt i’n rheoleiddwyr.

Mae’r rhan fwyaf o’n dyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru ar yr arfordir; yn 2022 roedd gennym 107 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig, ac roedd 85 ohonynt wedi cyflawni’r dosbarthiad uchaf. Dim ond 1 dŵr ymdrochi mewndirol sydd gennym yng Nghymru (Llyn Padarn yn Llanberis). Mae’r rheoliadau sy’n cael eu defnyddio i reoli ansawdd dŵr afonydd yn ystyried meini prawf sy’n wahanol i’r rhai ar gyfer dynodi dyfroedd ymdrochi. Mae afon sy’n iach ar gyfer bywyd gwyllt yn wahanol i fod yn addas i bobl nofio ynddi, felly fel arfer nid oes rhaid i ni ddiheintio elifion terfynol i afonydd.

Beth yw Gorlifoedd Storm?

Cafodd y rhan fwyaf o’r rhwydwaith dŵr gwastraff ei hadeiladu amser maith yn ôl. Mae rhai o’n pibellau bellach yn ‘gyfun’ sy’n golygu eu bod yn gallu cario dŵr gwastraff a dŵr glaw. Yn ystod glaw trwm, gall dŵr o doeau a draenio ffyrdd fynd i mewn i’r pibellau, ac nid hynny y cawsant eu cynllunio i ymdopi ag ef yn wreiddiol. Pan fydd y pibellau’n cael eu llethu, mae mannau lleddfu o fewn y garthffos a elwir yn Gorlifoedd Storm Cyfun neu Gorlifoedd Storm yn rhyddhau, yn bennaf drwy ollwng yn awtomatig dros gored, i’n hafonydd neu’r môr. Heb y mannau lleddfu hyn, byddem yn peryglu llifogydd i strydoedd, priffyrdd ac yn achosi i doiledau orlifo y tu mewn i eiddo.

IMae’n bwysig tynnu sylw at y ffaith bod gorlifoedd storm wedi’u cynllunio i weithredu yn ystod glaw trwm, fel bod unrhyw garthion sy’n bresennol yn cael eu gwanhau’n sylweddol â glaw. Dylai hyn olygu bod afonydd yn gorlifo hefyd. Caniateir y gorlifoedd hyn gan ein rheoleiddwyr amgylcheddol o dan rai amodau. Rydym yn ymchwilio i’r rhai yr ydym yn credu nad ydynt yn gweithredu’n gywir, gan weithio gyda CNC (Cymru) a’r EA (Lloegr) ac yn adrodd iddynt. Gallwch ddysgu mwy am ein gorlifoedd storm yma.

A oes gan fy nŵr ymdrochi orlif storm?

Ar hyn o bryd rydym yn monitro dros 99.5% o’n gorlifoedd storm – gallwch weld map ar ein gwefan yma sy’n dangos lleoliad yr asedau hyn, data blaenorol ar ba mor aml y maent yn gweithredu. Mae’r gorlifoedd sy’n weddill, heb eu monitro eto’n gofyn am ystyriaethau iechyd a diogelwch cymhleth i fynd atynt a’u gosod, sydd ar y gweill. Mae CNC yn darparu disgrifiadau manwl o leoliadau dŵr ymdrochi dynodedig gan gynnwys gorlifoedd storm ar eu gwefan e yma.

Ein rhybuddion gorlifoedd storm ac ansawdd dŵr ymdrochi presennol

Mae ein system bresennol yn rhoi rhybuddion gorlifoedd storm gwirfoddol ar gyfer tua 1/3 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru, gan gynnwys rhai dyfroedd sy’n cael llawer o ddefnydd nad ydynt wedi’u dynodi. Mae’r rhybuddion hyn yn dangos pan fydd gorlif storm wedi gweithredu o fewn yr ardal leol ac nad ydynt yr un fath â digwyddiadau llygredd. Rydym yn rhannu ein rhybuddion gyda sefydliadau fel Surfers Against Sewage (SAS) sy’n eu trosglwyddo ar eu platfform(au) i randdeiliaid eu gweld.

Nod ein rhybuddion yw rhoi mwy o wybodaeth i’n rhanddeiliaid i wneud dewis gwybodus o ran ymdrochi. Mae’n bwysig i ymdrochwyr ystyried effeithiau eraill ar ansawdd dŵr ymdrochi, hyd yn oed yn absenoldeb gorlifoedd storm. Rydym eisiau i’n cwsmeriaid gael cymaint o wybodaeth â phosibl i allu gwneud dewis gwybodus o ran ymdrochi ac rydym yn deall nad yw ein system bresennol yn ddigon i’n cwsmeriaid. Ein cynllun yw darparu gwasanaeth gwell gyda mwy o wybodaeth.

Beth nesaf?

Rydym wedi lansio llwyfan i roi gwybodaeth fyw am ollyngiadau ar ein gwefan sy’n rhoi gwybod bod gorlif storm lleol wedi ei weithredu o fewn 1 awr. Fersiwn cam cyntaf yw hwn a’r flaenoriaethu i ddechrau yw dyfroedd ymdrochi dynodedig a rhai dyfroedd amwynder sy’n cael llawer o ddefnydd, sydd eisoes yn cael rhybuddion.

Arolwg Nofio Dŵr Agored 2023

PDF, 2.2MB

Ail gam y prosiect hwn yw darparu rhybuddion am ein holl orlifoedd storm yn 2025. Bydd y system hon yn rhoi’r hyn sydd ei angen ar ddefnyddwyr dŵr, yr un ffordd y gall defnyddwyr edrych ar ragolygon y tywydd, lefelau glaw/afonydd diweddar, gwybodaeth am y llanw, i wneud dewis gwybodus p’un ai i ymdrochi ai peidio.

Os oes gennych ymholiadau penodol am fater ansawdd afon neu ddŵr a hoffech siarad â rhywun, gallwch anfon e-bost at RiverQualityLiaison@dwrcymru.com.

Gwybodaeth ddefnyddiol / darllen arall

Gallwch ddysgu mwy am sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli dyfroedd ymdrochi gan gynnwys proffiliau safleoedd yma.

Mae’r un math o wybodaeth ar gael gan Asiantaeth yr Amgylchedd yma.

Yn ystod cyfnodau hir o dywydd heulog sych, gall rhai ardaloedd sy'n boblogaidd ar gyfer nofio ddioddef gordyfiant algâu. Gall y rhain edrych yn debyg i achosion o lygredd ond maent yn digwydd yn naturiol - gallwch ddysgu mwy am ordyfiant algâu a sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu nodi yma.