Amgylchedd


Rydym yn deall pwysigrwydd ansawdd dŵr afonydd a dyfroedd ymdrochi i’n cwsmeriaid, ac yn cymryd ein cyfrifoldeb i warchod yr amgylchedd ehangach o ddifri.

Ar y dudalen hon gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn gweithio’n galed ac yn buddsoddi i ddiogelu ein hadnoddau dŵr gwerthfawr a’r gwaith ehangach rydym yn ei wneud i warchod a gwella ein hamgylchedd gwerthfawr.

Ein Maniffesto ar gyfer Afonydd yng Nghymru

Rydym wedi cyhoeddi ein ‘maniffesto’ i amlinellu ein cynlluniau ar gyfer sut y byddwn yn buddsoddi i wella ansawdd dŵr afonydd yn ein hardal weithredu. Mae datblygiad y maniffesto yn cydnabod y pryder cyhoeddus cynyddol sydd ynghylch ansawdd dŵr ac yn manylu sut y byddwn yn buddsoddi £840m yn y pum mlynedd hyd at 2025 ac £1.4bn pellach rhwng 2025 a 2030 i warchod yr amgylchedd.

Rydym yn bwriadu targedu ein buddsoddiad at yr asedau hynny sy’n cael yr effaith fwyaf ar yr amgylchedd, boed hynny’n orlifau storm yn gweithredu mwy nag yr hoffem neu gormod o ffosfforws yn gadael ein gweithfeydd trin. Rydym yn deall bod yn rhaid i ni wella eu perfformiad. Mae ein cynlluniau yn cynnwys:

  • Buddsoddi’n drwm mewn gwella gorlifoedd storm gan fuddsoddi £25m rhwng 2020 a 2025, gyda chynlluniau i fuddsoddi £420m pellach rhwng 2025 a 2030.
  • Buddsoddi £60m pellach yn benodol er mwyn lleihau’r ffosffadau yn y pum afon sy’n methu â chyflawni’r safonau mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) yn ein hardal weithredu.
  • Cyflawni rhaglen gynhwysfawr o welliannau yn ein gweithfeydd trin a fydd yn tynnu 90% o’r ffosfforws rydym yn ei ryddhau erbyn 2030.
  • Mae model gweithredu ein busnes wedi caniatáu i ni gyflawni dros £100m o waith buddsoddi ychwanegol yn ein seilwaith dŵr gwastraff yn gynt na’r bwriad, a bydd cyflymu’r buddsoddiad o fantais uniongyrchol wrth wella afonydd yng Nghymru erbyn 2025.
Ein Maniffesto ar gyfer Afonydd yng Nghymru

Ein Maniffesto ar gyfer Afonydd yng Nghymru

PDF, 1.3MB

Maniffesto ar gyfer Afonydd yng Nghymru, sy’n amlinellu ein cynlluniau i helpu i wella ansawdd afonydd.

Arolwg Nofio Dŵr Agored 2023

PDF, 2.2MB

A wyddoch chi?

  • Rydyn ni’n buddsoddi £936 miliwn yn ein seilwaith dŵr gwastraff erbyn 2025, gan gynnwys bron i £100 miliwn ar gyfer gwella perfformiad gorlifoedd carthffosydd cyfun
  • Byddwn ni’n gwella o leiaf 420km o afonydd yng Nghymru a Swydd Henffordd yn uniongyrchol, gan helpu’r afonydd i symud yn agosach at statws ‘ecolegol dda’ erbyn 2025
  • Rydyn ni’n rhoi £250,000 o gyllid ac arbenigedd i raglen ‘Pedair Afon LIFE’ Llywodraeth Cymru, ar afonydd Cleddau, Teifi, Tywi ac Wysg.
  • Mae dros 99% o’n Gorlifoedd Storm Cyfun yn cael eu monitro a’u hadrodd yn agored ar ein gwefan
  • Rydyn ni wedi lansio ein map data gorlifoedd carthffosydd cyfun rhyngweithiol ar y we ym mis Gorffennaf 2022
  • Erbyn 2025 byddwn yn gallu adrodd ar yr holl orlifoedd carthffosydd cyfun o fewn awr iddynt weithredu
  • Mae gan Gymru 105 o ddyfroedd ymdrochi sydd yn â statws ardderchog a da ar y cyfan. Gallwch weld canlyniadau dŵr ymdrochi diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru yma
  • Mae gan Gymru’r ganran uchaf o draethau Baner Las yn y DU – a chyflawnwyd 34% o gyfanswm y gwobrau yng Nghymru yn 2021

Mae llawer o sôn yn y cyfryngau ac ymhlith gwleidyddion am sut mae cwmnïau dŵr yn cyfrannu at lygredd yn yr amgylchedd dyfrol.

Fodd bynnag, mae’n amlwg mai rhan o’r broblem yn unig ydym ni, ac ni allwn fod yn gyfrifol am yr holl broblemau llygredd sy’n effeithio ar ein hafonydd a’n moroedd. Nid ydyn ni’n gwneud dim i’w niweidio’n fwriadol ond pan rydyn ni’n gyfrifol, yna rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni’n cymryd camau cadarnhaol i leihau’r effaith ac yn chwarae ein rhan i’w gwella er budd pawb.

Gan fod hwn yn bwnc mor bwysig, rydyn ni eisiau i bobl gael yr holl ffeithiau. Dyna pam rydyn ni wedi creu’r lle hwn ar ein gwefan sy’n cyflwyno gwybodaeth ddefnyddiol ac yn nodi sut gallwch chi gysylltu â ni os oes gennych ymholiadau eraill.

Ein Siwrnai

i Net o Sero

Fel un o ddefnyddwyr ynni mwyaf Cymru, mae angen i ni addasu ein dulliau o ddarparu gwasanaethau fel y gallwn i ddelio â'r sialensiau sydd o'n blaenau yn y blynyddoedd a'r degawdau sydd i ddod.

Dysgu mwy
Welsh Water Operational Worker

Gwybodaeth am

Orlifoedd Carthffosydd Cyfun

Gan gynnwys

  • y rôl bwysig sydd ganddyn nhw wrth amddiffyn eiddo a chymunedau rhag llifogydd carthffosiaeth
  • Pam mae gorlifoedd carthffosydd cyfun yn bodoli
  • y rheolau y mae’n rhaid i ni gydymffurfio â nhw i’w gweithredu
  • y buddsoddiad yr ydym eisoes wedi’i wneud ac yn bwriadu ei wneud i wella gorlifoedd carthffosydd cyfun ymhellach
  • yr wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad gorlifoedd carthffosydd cyfun yn eich ardal chi
Dysgu mwy
Gwybodaeth am ansawdd dŵr afonydd

Gwybodaeth am

ansawdd dŵr afonydd

Gan gynnwys

  • Ffynonellau o faethynnau mewn afonydd a’n cyfraniad ni. Y buddsoddiad yr ydym eisoes wedi’i wneud, ac yn bwriadu’i wneud i wella ansawdd afonydd ymhellach gan gynnwys datblygu datrysiadau sy’n seiliedig ar natur
  • y cynlluniau yr ydyn ni wedi’u datblygu fel rhan o Dasglu Gwella Ansawdd Afonydd wedi’i arwain gan Lywodraeth Cymru i wella ansawdd dŵr afonydd
  • canfyddiadau adroddiadau annibynnol yn cadarnhau maint ein cyfraniad at lwytho maethynnau mewn afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
Dysgu mwy
Gwybodaeth am Llygredd

Gwybodaeth am

Llygredd

Helpwch ni i leihau llygredd mewn dŵr trwy ddweud wrthym cyn gynted â phosibl os ydych chi'n gweld llygredd carthion mewn afon, nant, neu gwrs dŵr arall. Mae 53% o'n hachosion o lygredd dŵr gwastraff yn cael eu hachosi gan rwystrau a tua 24% o achosion wedi'u priodoli i rwystrau sydd wedi eu hachosi gan weips!

Ymhlith yr achosion eraill mae:

  • Byrsts ar bibellwaith dan bwysau o'n Gorsafoedd Pwmpio neu garthffosydd yn dymchwel
  • Methiannau mecanyddol neu drydanol pympiau ac offer arall
  • Colli’r gallu i drin yn un o'n gweithfeydd trin
  • Rhyddhau o'n gorlifoedd storm oherwydd rhwystrau
Dysgu mwy

Rydyn ni’n ymwybodol bod hwn yn bwnc llosg ac rydym yn ymrwymo i gael sgwrs agored ac onest amdano.

Os oes gennych chi ymholiadau penodol am fater yn ymwneud ag ansawdd afon a hoffech siarad â rhywun, gallwch e-bostio sewerage.services@dwrcymru.com neu riverqualityliaison@dwrcymru.com