Wateraid


Rydym ni yng Nghymru yn ffodus oherwydd ein bod yn gallu mwynhau dŵr glân ffres yn syth o'r tapiau yn ein cartrefi. Yn anffodus, nid yw pawb mor ffodus gan fod dŵr yn brin mewn llawer o rannau o'r byd. Nod Wateraid yw newid hyn.

Allwch chi ddychmygu byd lle byddech chi'n troi'r tap, ac na fyddai dim yn dod allan?

Mae angen i lawer o bobl y byd gerdded am 3 awr neu ragor i gasglu eu dŵr yfed. Mae goroesi'n dibynnu'n llwyr ar fod â dŵr glân pan fo angen - ac rydyn ni wedi hen arfer â bod yn gallu mwynhau digonedd o ddŵr. A dweud y gwir, mae pob un ohonon ni'n defnyddio tua 150 litr o ddŵr y dydd ar gyfer ein hiechyd a'n hylendid, o'i gymharu â 9 litr mewn rhannau eraill o'r byd.

Y gwir amdani yw, er ein bod ni'n meddwl bod dŵr ym mhob man, mae'n mynd yn fwyfwy prin mewn sawl rhan o'r byd, gan gynnwys Ewrop. Y newid yn yr hinsawdd yw'r prif reswm am hyn, a'r ffaith fod pobl yn defnyddio mwy o ddŵr heddiw nag oedden nhw'n arfer ei wneud.

Deunydd a gwybodaeth i’w lawrlwytho: