Effeithlonrwydd Dŵr


Yn y DU, rydyn ni'n defnyddio 150 litr o ddŵr ar gyfartaledd bob dydd.Mae gennym lawiad uchel yng Nghymru, ac yn aml nid ydyn ni'n meddwl am faint o ddŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio am fod cyflenwad toreithiog o ddŵr glaw gyda ni.

Ond mae llawer o waith yn mynd i gynhyrchu'r dŵr sy'n dod allan o'r tap. Rydyn ni'n defnyddio llawer o ynni i symud y dŵr o un man i'r llall, trwy bibellau i gartrefi a busnesau, ac o amgylch y gweithfeydd trin eu hunain.

Trwy fod yn ofalus gyda'r dŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio, rydyn ni'n arbed dŵr ac yn arbed ynni hefyd. Yr ynni sy'n cael ei ddefnyddio yn y broses yw 10-15% o gost trin y dŵr.

Er bod digonedd o ddŵr yn ein cronfeydd a'n hafonydd fel rheol, mae haf sych a chynnes yn gallu disbyddu lefelau'r dŵr yn gyflym, felly mae hi'n bwysig ein bod ni'n dysgu i ofalu am ein dŵr fel y gallwn sicrhau bod y dŵr sydd gennym yn mynd ymhellach.

Oeddech chi'n gwybod?

Mae llawer o ffyrdd rhwydd o ofalu am ddŵr:

  • Mae gadael y tap yn rhedeg am 2 funud wrth frwsio dannedd yn gallu gwastraffu hyd at 20 litr o ddŵr.
  •  Mae sestonau tai bach hyn yn defnyddio 9 litr o ddŵr am bob fflysh, (mae'r rhai mwy modern yn defnyddio 6 litr) felly gallwch roi bag hippo neu fag arbed fflysh yn y seston i leihau faint o ddŵr sy'n cael ei ddefnyddio wrth fflysio.
  • Mae treulio pum munud yn y gawod yn defnyddio tua hanner llond bath o ddŵr (oni bai ei bod yn gawod pŵer, os felly bydd pum munud yn defnyddio'r un faint â bath).
  • Mae teclynnau awyru mewn rhai cawodydd a thapiau newydd. Mae'r rhain yn ychwanegu aer at y dŵr sy'n golygu eu bod yn defnyddio llai o ddŵr o lawer na thapiau a chawodydd safonol.
  •  Mae taenellwyr yn defnyddio llawer fawr o ddŵr, rhwng 500 a 1000 litrau yr awr. Mae can dyfrio'n dal tua 10 litr. Os llenwch chi'r can dyfrio o gasgen ddŵr, yna mae hynny'n well byth!

Deunydd a gwybodaeth i’w lawrlwytho: