Darparu dŵr glân


Mae Dŵr Cymru'n darparu dŵr yfed glân a dibynadwy ar gyfer dros 1.4 miliwn o gartrefi a busnesau, sy'n golygu taw ni yw'r mwyaf ond pump o'r 23 cwmni dŵr yng Nghymru a Lloegr.

Cynhyrchu Dŵr

Mae gennym gronfeydd dŵr, sy'n dal ac yn cadw dŵr. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu creu trwy adeiladu argaeau ar draws dyffrynnoedd afonydd ac mewn ardaloedd tir uchel. Mae gennym weithfeydd trin dŵr, lle mae dŵr y cronfeydd yn cael ei drin er mwyn ei wneud yn ddigon diogel i'w yfed. Mae'r rhain yn darparu dros 800 miliwn litr o ddŵr bob dydd trwy rwydwaith 27,000km o hyd.

Erbyn i'r dŵr gyrraedd yr afonydd, y cronfeydd dŵr neu'r dyfrhaenau, mae amrywiaeth eang o sylweddau eisoes yn y dŵr, a'r rhain sydd i gyfrif am ansawdd y dŵr. Mae'r dŵr yn amsugno baw, llwch a nwyon o'r awyr, malurion a bacteria o'r ddaear, a mwynau tawdd o'r creigiau ar ei daith.

Yn y gweithfeydd trin dŵr, y prif amcan yw difa'r bacteria a chael gwared ar gynifer o sylweddau diangen â phosibl.

Mae anfon llawer iawn o ddŵr i bron pob eiddo domestig, amaethyddol a diwydiannol yn ein hardal yn gofyn am rwydwaith helaeth iawn o bibellau a phrif bibellau.

Ym Mhrydain heddiw, mae pobl yn cymryd argaeledd dŵr yfed glân a diogel yn ganiataol. Adnodd naturiol yw dŵr, ond mae angen ei lanhau er mwyn ei wneud yn ddigon diogel i'w yfed. Dŵr crai yw'r dŵr y gwelwch chi mewn cronfeydd dŵr. Mae angen ei lanhau a'i drin i safonau uchel a'i gyflenwi 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae hyn yn gofyn am lawer iawn o sgil yn y maes peirianneg a gwyddoniaeth.

Profi ansawdd dŵr

Darparu dŵr yfed o ansawdd uchel yw'n blaenoriaeth bob amser. Dros gwrs blwyddyn, rydyn ni'n cyflawni tua 300,000 o brofion dŵr ac yn eu dadansoddi, ac mae 99.96% o'r dŵr rydym yn ei gyflenwi'n bodloni'r safonau o ran ansawdd dŵr yfed yng nghartrefi'r cwsmeriaid.

Rydym yn cymerir a dadansoddir samplau dŵr pob dydd. Rydym yn profir gemegion organig (cemegolion sy'n seiliedig ar garbon, fel y rhai a geir mewn plaladdwyr a chwynladdwyr), cemegolion anorganig (fel haearn, plwm, manganîs ac alwminiwm) a microbau (e.e. bacteria a firysau).

Rydym yn cymerir samplau dŵr o'n cronfeydd dŵr a'n gweithfeydd trin dŵr bob dydd, ac yn eu profi yn ein labordai lle mae gennym yr offer diweddaraf sy'n gallu datgelu lefelau olion cyfansoddion hyd lefel rhan fesul triliwn yn y samplau sy'n cael eu profi. Mae 1 rhan fesul triliwn gyfwerth ag 1 eiliad mewn 31,000 o flynyddoedd!

Diogelwch Cronfeydd Dŵr

Er bod cronfeydd dŵr yn gallu edrych fel llefydd hyfryd i fynd i oeri mewn tywydd poeth, mae peryglon di-ri yn llechu o dan y dŵr. Os bydd eich ffrindiau'n gofyn i chi fynd i nofio mewn cronfa ddŵr, dywedwch NA! bob tro! Ond, gallwch gymryd rhan mewn llu o weithgareddau difyr yn ein canolfannau ymwelwyr.

Deunydd a gwybodaeth i’w lawrlwytho:

Ble maer peryglon

Lawrlwytho
126.1kB, PDF

Effaith dwr oer ar y corff

Lawrlwytho
719.2kB, PDF

Erthyglau papur newydd

Lawrlwytho
1.4MB, PDF

Map o weithfeydd trin dwr

Lawrlwytho
240.5kB, PDF

Poster Diogelwch Cronfeydd Dwr

Lawrlwytho
2.6MB, JPG

Proses Trin Glanhau Dwr

Lawrlwytho
192kB, PDF

Sut mae dwr yn cael ei drin ai ddosbarthu

Lawrlwytho
601kB, PDF

Water Process

Lawrlwytho
283.6kB, PDF

Y Broses Ddwr

Lawrlwytho
205.1kB, PDF

Ymchwilio i dymheredd dwr

Lawrlwytho
329.9kB, PDF