Effeithiau'r Newid yn yr Hinsawdd


Mae'r hinsawdd yn newid. Y ddwy elfen a allai newid yw'r glawiad a'r tymheredd. Gallai droi'n fwy gwlyb neu'n fwy sych, ac yn boethach neu'n oerach. Mae hyn yn golygu bod yna bedwar cyfuniad posibl. Mwy gwlyb a phoeth/ mwy gwlyb ac oer/ mwy sych a phoeth /mwy sych ac oer.

Mae gwyddonwyr yn anghytuno o ran beth fydd natur y newidiadau, ond maen nhw i gyd yn cytuno y bydd yr hinsawdd yn newid mewn rhyw ffordd.

Beth bynnag fydd natur y newid, un peth sy'n sicr - bydd yn achosi problemau.

Os bydd y tywydd yn troi'n fwy sych, mae'n bosibl y bydd yna broblem am na fydd digon o ddŵr gennym ni, felly mae dysgu sut i arbed dŵr yn bwysig iawn.

Os bydd y tywydd yn troi'n fwy gwlyb, yna mae'n bosibl y byddwn ni'n wynebu problemau gyda llifogydd.

Rydyn ni eisoes wedi gweld stormydd glaw trymach neu ddwysach ym Mhrydain.

Ar hyn o bryd, carthffosydd cyfun yw llawer o'n carthffosydd ni, sy'n golygu bod y 'dŵr budr' (o'n cartrefi a'n busnesau) yn mynd i'r un rhwydwaith o bibellau â'r dŵr wyneb (y glaw sy'n disgyn ar ein toeau a'n ffyrdd). Os yw'r glaw yn drwm, mae'r holl ddŵr ychwanegol yma'n mynd i'n rhwydwaith o garthffosydd, ac os oes gormod, bydd yn gorlifo ac yn achosi llifogydd. Am fod rhywfaint o'r dŵr yma'n ddŵr gwastraff o'n cartrefi, mae'r dŵr wedi ei lygru.

Pe bawn ni'n creu'r rhwydwaith o garthffosydd heddiw, byddai dwy system ar wahân - y naill ar gyfer y dŵr glaw neu'r dŵr wyneb, a'r llall ar gyfer dŵr gwastraff neu garthffosiaeth. Ond yn amlwg, gyda 27,000km o bibellau carthffosiaeth, nid yw hyn yn ateb ymarferol bob tro.

GlawLif

Mae Dŵr Cymru wedi datblygu cynllun arloesol o'r enw GlawLif i leihau faint o ddŵr wyneb sy'n mynd i'n carthffosydd, a lle bo modd, i ddal, dargyfeirio ac arafu llif y dŵr wyneb i mewn i'r rhwydwaith o garthffosydd. Mae'r cynllun yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau a alwn yn 'atebion GlawLif'. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am GlawLif trwy lawrlwytho'r taflenni gwybodaeth a gwylio'r fideos isod.