Dŵr Gwastraff


Mae llawer o waith yn cael ei wneud i atal rhwystrau mewn carthffosydd a glanhau'r dŵr gwastraff sy'n gadael eich cartref neu eich ysgol. Nid yw'n cael ei wastraffu ychwaith, gan y gellir troi dŵr gwastraff a charthion yn bŵer y gellir ei ddefnyddio!

Beth yw dŵr gwastraff/carthffosiaeth?

Y dŵr sy'n cael ei arllwys i lawr y draen ar ôl golchi llestri, cael bath neu fflysio'r tŷ bach yw hyn. Yn wir, mae dŵr gwastraff yn cynnwys pob math o ddŵr sydd wedi cael ei ddefnyddio. Mae'r dŵr gwastraff yn cynnwys amrywiaeth o sylweddau, rhai ohonynt wedi eu hydoddi, a rhai ar ffurf solet a fydd yn arnofio, yn suddo neu'n hongian yn y dŵr.

  • Dŵr domestig o'r bath, golchi llestri, tai bach ac ati.
  • Dŵr gwastraff diwydiannol o ffatrïoedd.
  • Dŵr glaw sy'n llifo oddi ar doeau, ffyrdd ac ardaloedd palmantog.

Casglu dŵr gwastraff

Mae casglu'r holl ddŵr gwastraff yma a'i gludo i'r gweithfeydd trin yn dasg beirianyddol aruthrol sy'n gofyn am rwydwaith helaeth o garthffosydd sy'n ymestyn allan i bron pob cartref, swyddfa, siop, ysgol a ffatri yn y wlad.

Yn y rhanbarth sydd yng ngofal Dŵr Cymru yn unig, mae hyn yn golygu tua 36,000kkm o garthffosydd a draeniau.

Mathau o rwydweithiau carthffosiaeth

Mae dau brif fath o rwydwaith carthffosiaeth:

Carthffosydd cyfun ‐ pibellau sengl sy'n cludo dŵr 'budr' domestig a diwydiannol, a dŵr wyneb hefyd.

Carthffosydd ar wahân ‐ un bibell sy'n cludo dŵr 'budr' ac un arall sy'n cludo dŵr ffo.

Carthffosydd ar wahân sydd orau lle bo modd, am eu bod yn cadw'r dŵr glaw a'r dŵr 'budr' ar wahân, sy'n golygu bod modd rhyddhau'r dŵr glaw yn syth i'r afonydd neu'r môr yn rhwydd, neu adael iddo ymdreiddio i'r ddaear.

Mae rhwystrau'n gallu codi mewn carthffosydd, ac mae'r rhain yn gallu achosi llifogydd carthion.

Mae rhwystrau mewn carthffosydd a draeniau yn gallu costio cannoedd o bunnoedd i'n cwsmeriaid i'w clirio, maent yn gallu achosi llifogydd mewn cartrefi a gerddi, neu lygru nentydd lleol.

Stop Cyn Creu Bloc

Weips (gan gynnwys y rhai sydd wedi eu labelu fel rhai y gallwch eu fflysio), cewynnau a nwyddau mislif yw'r prif bethau sy'n achosi problemau; ond mae olew, braster a saim o'r gegin yn gallu achosi rhwystrau difrifol hefyd. Ni ddylech waredu'r eitemau hyn i lawr y draen. Pobl sy'n fflysio'r pethau anghywir i lawr y tŷ bach neu sy'n eu golchi i lawr sinc y gegin sy'n gyfrifol am tua hanner yr holl rwystrau mewn carthffosydd.

Mae ymgyrch Dŵr Cymru Stop Cyn Creu Bloc yn codi ymwybyddiaeth am ba bethau y gellir eu fflysio i lawr y tŷ bach a'u harllwys i lawr y draen. Mae llawer o wybodaeth am yr ymgyrch isod, gan gynnwys ffilm fer am glwb nos Loo Loo's.

Trin dŵr gwastraff

Pwrpas trin dŵr gwastraff yw cael digon o amhureddau allan o'r dŵr gwastraff i'w ddychwelyd yn ddiogel i'r afon neu'r môr, a'i alluogi i ddod yn rhan o'r gylchred ddŵr naturiol unwaith eto.

Mae'r broses ar gyfer glanhau dŵr gwastraff yn cynnwys cyfres o gamau sy'n cynnwys sgrinio, setlo a defnyddio microbau i gael gwared ar y cynnyrch solet sy'n crogi yn y dŵr. Mae'r manylion llawn yn ein taflenni gwybodaeth manwl y gallwch eu lawrlwytho.

Troi baw yn bŵer

Mae hi'n anodd credu ein bod ni'n gallu defnyddio dŵr gwastraff a charthffosiaeth i oleuo ein cartrefi, rydyn ni'n galw hyn yn Bŵer Baw!

Mae Pŵer Baw yn defnyddio bio-nwy, sy'n gyfoethog o ran methan, sy'n cael ei godi trwy'r broses o drin dŵr gwastraff a charthffosiaeth, i yrru tyrbinau. Mae'r bio-nwy, sy'n cynnwys methan yn bennaf, yn cael ei gynhyrchu wrth i facteria fwydo ar wastraff pobl ac anifeiliaid. Treulio anaerobig yw'r enw ar y broses hon. Mae'n ffordd wych o gynhyrchu ynni gwyrdd, ac o gael gwared ar wastraff, a'r meicro-organebau sy'n llechu ynddo. Un o'r ffyrdd symlaf o ddisgrifio treulio anaerobig yw bod miliynau o chwilod bychain bach yn y gwastraff yn 'torri gwynt', gan gynhyrchu bio-nwy.

Y peth da yw, wrth losgi'r bio-nwy i gynhyrchu trydan, mae llai o garbon deuocsid o lawer yn cael ei ryddhau nag wrth losgi tanwydd ffosil

Downloads 

Carthffos Syml pwy flociodd y pibellau gwastraff

Download
370.9kB, PDF

Diagram llif dwr gwastraff

Download
243.4kB, PDF

Drysfa Gwastraff

Download
131.5kB, PDF

Fflysio neu na Ymchwiliad

Download
494.2kB, PDF

Map syn dangos lleoliad Gweithfeydd Trin Dwr Gwastraff

Download
339.2kB, PDF

Proses Trin Gwastraff

Download
246.1kB, PDF

Sut mae dwr gwastraffcarthffosiaeth yn cael ei reoli

Download
370.5kB, PDF

Yr Ymgyrch Stop Cyn Creu Bloc

Download
47.5kB, PDF