Arbed Dŵr


Does dim byd yn bwysicach na dŵr. Mae llawer iawn o waith, egni a chariad yn cael ei roi i pob diferyn o ddŵr sy’n cyrraedd ein cartrefi.

Rydym yn defnyddio dŵr bob dydd mewn sawl gwahanol ffordd. Does dim dŵr newydd yn y byd, ac felly rydyn ni'n gofyn i bobl ddefnyddio'r holl ddŵr sydd ei angen arnyn nhw, ond i ofalu i beidio â'i wastraffu.

Oeddech chi'n gwybod?

  • Mae traean o'r dŵr rydym yn ei ddefnyddio gartref yn mynd i lawr y tŷ bach - mae pob fflysh yn gallu tynnu rhwng 6 ac 13 litr o ddŵr, yn dibynnu ar faint seston y tŷ bach.
  • Mae tap sy'n diferu yn gallu gwastraffu hyd at 30 litr o ddŵr y dydd.
  • Mae peiriant golchi'n defnyddio hyd at 80 litr o ddŵr bob tro, dim ots os yw'r peiriant yn llawn a'i peidio, ac mae peiriant golchi llestri'n defnyddio rhwng 22 a 35 litr y tro.
  • Mae bath yn defnyddio hyd at 80 litr o ddŵr ac mae cawod yn defnyddio 35 litr. Mae cawod pŵer (un â phwmp) yn gallu defnyddio'r un faint o ddŵr â bath.
  • Mae taenellwyr gardd yn defnyddio llawer iawn o ddŵr, hyd at 1,000 o litrau'r awr. Mae hynny llawn cymaint ag y byddai un person yn ei ddefnyddio mewn WYTHNOS!

Deunydd a gwybodaeth i’w lawrlwytho

Os ydych chi'n awyddus i ddysgu rhagor am effeithlonrwydd dŵr, dewch i'n gweld ni yn un o'n canolfannau darganfod.