Newid Hinsawdd


Mae'r hinsawdd yn newid ar draws y byd i gyd, ac mae hyn yn achosi problemau i bobl ym mhob man.

Effeithiau'r Newid yn yr Hinsawdd

Mae dau brif ffactor i'r newid, sef y tymheredd ‐ gallai droi'n boethach neu'n oerach, a glawiad - gallai droi'n wlypach neu'n sychach.

Felly, gallai ein hinsawdd droi'n wlypach ac yn boethach, neu'n wlypach ac yn oerach. Neu gallai droi'n sychach ac yn boethach, neu'n sychach ac yn oerach.

Sut bynnag y mae'r hinsawdd yn newid, gallai achosi problemau difrifol i ni.

Gallai tywydd gwlypach achosi llifogydd, a gallai tywydd sychach olygu nad oes digon o ddŵr yn ein hafonydd a'n cronfeydd.

GlawLif

Pan mae hi'n bwrw glaw, mae'r dŵr sy'n glanio ar ein toeau, ein ffyrdd, ein palmentydd a'n llefydd parcio yn llifo i ffwrdd i mewn i'r draeniau, ac mae llawer o'r dŵr yma'n ffeindio'i ffordd i'n rhwydwaith o garthffosydd. Os oes gormod o ddŵr yn y carthffosydd, yna maent yn gallu gorlifo gan achosi llifogydd ar y ffyrdd ac mewn cartrefi, ac achosi llygredd.

Gwyliwch y ffilm i ddysgu rhagor am GlawLif ac i weld sut mae Dŵr Cymru yn ceisio atal hyn rhag digwydd

Deunydd a gwybodaeth i’w lawrlwytho

Os ydych chi'n awyddus i ddysgu rhagor am newid hinsawdd, dewch i'n gweld ni yn un o'n canolfannau darganfod.