Dŵr Glân i Bawb


Allwch chi ddychmygu byd lle byddech chi'n troi'r tap, ac na fyddai dim yn dod allan?

Mae angen i lawer o bobl y byd gerdded am 3 awr neu ragor i gasglu eu dŵr yfed. Mae goroesi'n dibynnu'n llwyr ar fod â dŵr glân pan fo angen - ac rydyn ni wedi hen arfer â bod yn gallu mwynhau digonedd o ddŵr. A dweud y gwir, mae pob un ohonon ni'n defnyddio tua 150 litr o ddŵr y dydd ar gyfer ein hiechyd a'n hylendid, o'i gymharu â 9 litr mewn rhannau eraill o'r byd.

Y gwir amdani yw, er ein bod ni'n meddwl bod dŵr ym mhob man, mae'n mynd yn fwyfwy prin mewn sawl rhan o'r byd, gan gynnwys Ewrop. Y newid yn yr hinsawdd yw'r prif reswm am hyn, a'r ffaith fod pobl yn defnyddio mwy o ddŵr heddiw nag oedden nhw'n arfer ei wneud.

Deunydd a gwybodaeth i’w lawrlwytho:

Os ydych chi'n awyddus i ddysgu rhagor am ddŵr glân i bawb, dewch i ymweld â ni yn un o'n canolfannau darganfod.