Cyfleoedd Secondiad i Athrawon


Gyda Dŵr Cymru, rydym yn cynnig cyfle unigryw i athrawon i weithio gyda’n tîm addysg ar secondiad 12 mis, i gyflwyno darpariaeth addysg ddi-dâl, sy’n unol â’r cwricwlwm, i ysgolion ar draws Gymru a Swydd Henffordd.

Mae dros 70 o athrawon cymwysedig wedi elwa o’r rhaglen, gyda tri o athrawon newydd yn cael eu croesawi i’r busnes yn flynyddol. Rhyngddynt, maent yn cyflwyno ein rhaglen o weithdai, gwersi a sesiynau i dros 70,000 o ddisgyblion  - trwy ymweld ag ysgolion a chynnal ymweliadau i’n canolfannau. Mae’r model o secondio athrawon yn unigryw o fewn y diwydiant dŵr. Mae’n sicrhau bod ein darpariaeth yn gyfoes ac yn cael ei liwio gan y cwricwlwm, bod ansawdd y sesiynau o’r safon uchaf, ac mae’n darparu cyfle gwerthfawr i athrawon cymwysedig i ehangu eu dealltwriaeth a’u sgiliau o fewn cyd-destun busnes a diwydiant. Mae’r athrawon, eu hysgolion, a’u disgyblion yn elwa o’r secondiad blwyddyn – gyda’r athrawon yn dychwelyd i’r ystafell ddosbarth yn gallu cynnig arbenigedd mewn ystod o feysydd newydd.

Pob blwyddyn, rydym yn hysbysu swyddi athrawon secondiad yn ystod tymor y gwanwyn, yn barod ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd ym mis Medi. 

 

Tysteb gan un o’n

Athrawon ar Secondiad

Dyw’r galw oddi wrth ysgolion i gefnogi cenedlaethau’r dyfodol trwy ein rhaglen addysg erioed wedi bod yn uwch, gyda dros 50,000 o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn sesiwn rhwng Ebrill a Rhagfyr 2022.

Dyma Jo, athrawes sydd ar secondiad ac sy’n helpu i gynnal y rhaglen gynhwysfawr hon, yn siarad am ei phrofiadau o weithio gyda disgyblion.

Dysgu mwy