Ein Brand


Mae gan Dŵr Cymru stori go arbennig i’w hadrodd.

Dros ddegawd yn ôl fe wnaethom ni rywbeth unigryw. Fe wnaethom ni greu ffordd newydd sbon o weithio. Daethom yn gwmni dŵr heb unrhyw randdeiliaid. Ers hynny, rydym ni wedi gallu rhoi pob ceiniog yr ydym yn eu hennill yn ôl i edrych ar ôl y tair miliwn o bobl sy’n dibynnu arnom ni bob dydd.

Mae edrych ar ôl dŵr a’r amgylchedd yn gyfrifoldeb mawr. Ac i fod yn onest, allwn ni ddim gwneud hynny ar ein pennau ein hunain. Mae heriau mawr o’n blaenau. Felly rydym ni angen i’n cwsmeriaid ein helpu ni. Dyma ble mae ein brand newydd yn dod i’r amlwg.

Dylai ysbrydoli ein cwsmeriaid i gymryd gofal o ddŵr – rhywbeth nad ydyn nhw’n gallu byw hebddo – fod yn hawdd. Ond mae angen i ni helpu i ailadeiladu eu perthynas â dŵr unwaith eto.

Felly cymerwch olwg ar ein brand. Mae’n dangos y modd nodedig y bydd ein cwmni yn cyfathrebu a’n tair miliwn o gwsmeriaid. Bydd hyn yn ein helpu i ysbrydoli ac adeiladu ymddiriedaeth.

Cedwir pob hawl. Mae’r holl gynnwys (testun, nodau masnach, darluniadau, logos, ffotograffau, graffigwaith, ffeiliau, dyluniadau, trefniadau a phethau eraill) ar y dudalen hon yn eiddo i Dŵr Cymru Welsh Water. Ni cheir defnyddio cynnwys na lawrlwythiadau o’r dudalen hon heb ganiatâd ymlaen llaw gan Dŵr Cymru Welsh Water. Cysylltwch â commsdesignteam@dwrcymru.com os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â defnyddio asedau o’r dudalen hon.

Sut yr ydym ni’n edrych

PDF, 6.7MB

Canllawiau cynhwysfawr ar olwg newydd ein cwmni, gan gynnwys cyflwyniad i’n dull newydd o ysbrydoli ein cwsmeriaid, rheolau ar ffotograffiaeth, lliwiau, logos a llawer mwy.

Ein logo

ZIP, 13.4MB

Sut yr ydym ni’n swnio

PDF, 4.6MB

Gallai cwmni fod â’r taflenni a’r dyluniadau fan gorau yn y byd, ond os oes un llythyr wedi ei eirio’n wael, neu fod un galwad ffôn neu brofiad gwael ac mae’n diystyru popeth arall.