Dod yn Aelod


Nid oes unrhyw gyfranddeiliaid gennym, ond yn hytrach mae gennym ryw 60 o Aelodau annibynnol sy'n cyflawni rôl craffu a llywodraethu hanfodol.

Pwy ydym ni?

Mae Dŵr Cymru yn gwmni dielw sy’n unigryw yn y sector cyfleustodau. Mae ein rhiant-gwmni, Glas Cymru Holdings Cyfyngedig, yn gwmni a ffurfiwyd at y diben o berchen ar Dŵr Cymru, ei ariannu a’i reoli.

Nid oes gennym gyfranddalwyr, ond yn hytrach mae gennym tua 60 o Aelodau annibynnol sy’n cyflawni swyddogaeth graffu a llywodraethu hanfodol.

Mae unrhyw arian dros ben yn cael ei gadw er budd ein cwsmeriaid ac yn cael ei ail-fuddsoddi i ofalu am eich dŵr a’r amgylchedd.

Yr hyn y byddwch yn ei wneud

Fel Aelod, byddwch yn...

  • Dwyn ein Bwrdd Cyfarwyddwyr i gyfrif am berfformiad y cwmnii
  • Helpu i sicrhau safonau uchel o lywodraethu corfforaethol
  • Cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn (gan gynnwys ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol) gyda dau gyfarfod rhanbarthol ychwanegol yn cael eu cynnal ledled y rhannau o Gymru a Lloegr yr ydym yn eu gwasanaethu

Yr hyn y byddwch yn ei gael

  • Mae’r swyddogaeth yn ddi-dâl – ond bydd eich treuliau’n cael eu had-dalu
  • Cyfle i helpu i lunio llywodraethiant un o gwmnïau mwyaf Cymru
  • Cyfle i helpu i oruchwylio gwaith un o’n gwasanaethau cyhoeddus mwyaf hanfodol

I adlewyrchu’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu ledled Cymru ac mewn rhannau o Loegr, rydym yn awyddus i benodi Aelodau o wahanol oedrannau â sgiliau, cefndiroedd a phrofiadau amrywiol. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr yn y diwydiant dŵr – dim ond eich bod wedi ymrwymo i lwyddiant y diwydiant hanfodol hwn yn ein cymunedau. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr i fod yn Aelodau o rannau o’n hardal gyflenwi sydd wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys Casnewydd (Gwent), Pen-y-bont ar Ogwr, Wrecsam a Swydd Gaer.

Ceisiadau

I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn esbonio pam rydych yn dymuno bod yn Aelod o Glas i company.secretary@dwrcymru.com erbyn dydd Gwener 15 Medi 2023.

Ynghyd â’ch cais, dylech hefyd gwblhau a dychwelyd y ffurflen Cyfle Cyfartal sydd wedi’i hatodi a fydd yn cael ei defnyddio at ddibenion monitro yn unig.

Ffurflen Cyfleoedd Cyfartal

Cyfweliadau a Phenodiadau

Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad personol naill ai ddydd Llun 9 Hydref (Gogledd/Canolbarth Cymru) neu ddydd Gwener 13 Hydref (De Cymru). Bydd lleoliad y cyfweliadau yn cael ei benderfynu gan nifer y ceisiadau a dderbynnir o’r ardal honno.

Bydd penodiadau’n cael eu gwneud tua diwedd mis Hydref 2023 a bydd diwrnod cynefino yn cael ei gynnal ddydd Mercher 15 Tachwedd cyn i chi gael eich gwahodd i’ch cyfarfod Aelodau cyntaf ddydd Gwener, 1 Rhagfyr 2023.