Yr Athro Tom Crick MBE
Cyfarwyddwr Anweithredol
Penodwyd Hydref 2017
Profiad
Mae Tom yn Athro Digidol a Pholisi ac yn Ddirprwy Is-ganghellor ym Mhrifysgol Abertawe, ac ym maes y rhyngwyneb rhwng ymchwil a pholisi mae ei ddiddordebau academaidd – o reoleiddio’r gwyddorau data, seiberddiogelwch a thechnoleg i reoleiddio gwasanaethau cyhoeddus digidol a’r seilwaith cenedlaethol. Mae e wedi darparu cyngor arbenigol ar gyfer Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ar draws nifer o feysydd polisi, ac mae’n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Ofcom ar gyfer Cymru, a Choleg Arbenigwyr DCMS. Mae Tom yn Beiriannydd Siartredig, yn Wyddonydd Siartredig ac yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Cafodd ei benodi’n MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2017 am ei wasanaeth i’r byd cyfrifiadureg.
Swyddi Anweithredol Cyfredol Eraill
Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Cyfarwyddwr Anweithredol Sector Development Wales Partnership Ltd (un o gyrff Llywodraeth Cymru dan enw Diwydiant Cymru). Aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Ofcom yng Nghymru.
Swyddi Anweithredol Blaenorol
Comisiynydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Is-lywydd BCS, y Sefydliad Siartredig TG.
Aelodaeth o bwyllgorau
Cadeirydd y Pwyllgor Technoleg. Aelod o’r Pwyllgor Ansawdd a’r Amgylchedd a’r Pwyllgor Taliadau.