Peter Perry

Prif Weithredwr


Penodwyd Hydref 2017

Prif Weithredwr: Ers Ebrill 2020

Profiad

Penodwyd Peter yn Brif Weithredwr yn Ebrill 2020. Cyn hynny bu'n Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr Cymru Welsh Water o Hydref 2017 ymlaen ar ôl treulio pedair blynedd fel Prif Swyddog Gweithredu. Penodwyd Peter yn Gyfarwyddwr Gweithredu Dŵr Cymru ym mis Gorffennaf 2006. Ym maes peirianneg sifil mae ei gefndir, a bu gynt yn Brif Swyddog Gweithredu gydag United Utilities Operational Services (UUOS), ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau yno â chyfrifoldeb dros y contract gweithredol gyda Dŵr Cymru, a buddiannau dŵr UUOS yn yr Alban ac Iwerddon. Cyn hynny, treuliodd dros 20 mlynedd yn gweithio dros Ddŵr Cymru.

Swyddi Anweithredol blaenorol

Cyfarwyddwr (yn cynrychioli Cymru) ar Wasanaeth Ymgynghorol y Rheoliadau Dŵr, sef y corff cenedlaethol sy’n pennu safonau'r deunyddiau a'r crefftwaith a ddefnyddir wrth gyflenwi dŵr yfed.

Penodiadau allanol cyfredol

Cadeirydd Bwrdd Arweinyddiaeth Cymru ac aelod o Fwrdd Arweinyddiaeth Gymunedol Busnes yn y Gymuned Cymru – Rhwydwaith Busnesau Cyfrifol Ei Fawrhydi Tywysog Cymru, sydd wedi ymrwymo i herio cwmnïau i fod yn fwy cyfrifol o ran eu heffaith ar gymunedau a’r blaned. Aelod o Fwrdd Water UK. Cynghorydd ar Fforwm Gwytnwch y DU.

Aelodaeth o bwyllgorau

Aelod o Bwyllgor yr Amgylchedd, Cymdeithasol a Llywodraethu, y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Enwebiadau, y Pwyllgor Ansawdd a'r Amgylchedd a'r Pwyllgor Technoleg.