Mike Davis
Prif Swyddog Cyllid
Penodwyd Ionawr 2020
Profiad
Graddiodd Mike fel peiriannydd cemegolion ac mae’n gyfrifydd siartredig yn ôl ei alwedigaeth. Mae ganddo brofiad ym maes y Cyfryngau, TGCh a'r diwydiannau mwyngloddio, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Cyllid dau fusnes a gychwynnwyd ag ecwiti preifat. Bu Mike gynt yn Gyfarwyddwr Strategaeth a Rheoleiddio ac yn Rheolwr Cyllid dros Ddŵr Cymru, â’i ffocws oedd cyflawni adolygiadau rheoliadol o brisiau a chystadleuaeth.
Swyddi Anweithredol blaenorol
Yn 2010-2014 bu Mike yn Gyfarwyddwr Anweithredol gyda Chartrefi RhCT, sy'n landlord cymdeithasol cofrestredig, ac yn gadeirydd ar Bwyllgor Rheoli Asedau a Phwyllgor Trysorlys y sefydliad. Bu gynt yn Gyfarwyddwr UK Water Industry Research hefyd.
Aelodaeth o bwyllgorau
Aelod o Bwyllgor yr Amgylchedd, Cymdeithasol a Llywodraethu a'r Pwyllgor Cyllid.