Joanne Kenrick
Cyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol Uwch (SID)
Penodwyd Tachwedd 2015
Profiad
Joanne oedd Cyfarwyddwr Marchnata Homebase tan ddiwedd 2015. Cyn hynny, bu’n Brif Weithredwr Start, lle sefydlodd a rhedodd fenter gyhoeddus Ei Fawrhydi Tywysog Cymru dros ddyfodol mwy cynaliadwy. Ymhlith ei rolau blaenorol mae Cyfarwyddwr Marchnata a Darpariaeth Cwsmeriaid B&Q, Cyfarwyddwr Marchnata'r Loteri Genedlaethol a Chyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata Grŵp Wilson Connolly. Mae hi wedi gweithio dros Woolworths, Asda, Pepsico a Masterfoods hefyd. Mae gan Joanne radd yn y Gyfraith o Brifysgol Nottingham, a phan oedd yn y coleg, roedd gyda'r menywod cyntaf erioed i gael hyfforddiant i hedfan gyda'r RAF.
Swyddi Anweithredol cyfredol eraill
Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol, Dirprwy Gadeirydd a Chadeirydd Pwyllgor Taliadau Coventry Building Society, Cyfarwyddwr Anweithredol Safestore, busnes storio personol mwyaf y DU, Cadeirydd Annibynnol Current Account Switch, Cash ISA Switch a PayM Mobile Payments Service ar gyfer Pay.UK. Cadeirydd ymddiriedolwyr elusen plant Make Some Noise.
Swyddi Anweithredol blaenorol
Cyfarwyddwr Anweithredol gyda Chymdeithas Adeiladu'r Principality a BACS Payment Services Limited.
Aelodaeth o bwyllgorau
Cadeirydd y Pwyllgor Taliadau. Aelod o'r Pwyllgor Archwilio, y Pwyllgor Enwebiadau a'r Pwyllgor Technoleg.