Jane Hanson CBE

Cyfarwyddwr Anweithredol


Penodwyd Ionawr 2021

Profiad

Mae Jane yn Gyfrifydd Siartredig cymwys ac mae ganddi brofiad helaeth o fframweithiau Rheoli Risgiau Menter, Llywodraethu Corfforaethol a Rheolaeth Fewnol mewn sefydliadau sy’n cael eu rheoleiddio’n dynn, FTSE, nid-er-elw a’r sector preifat. Mae ganddi brofiad helaeth hefyd o ddatblygu a monitro fframweithiau risg o ran cwsmeriaid ac ymddygiad, a goruchwylio rhaglenni TG a thrawsnewid helaeth a chymhleth. Mae Jane yn ynad heddwch hefyd.

Swyddi Anweithredol Cyfredol Eraill

Cadeirydd The Reclaim Fund Ltd a’r Bwrdd Ehangu Asedau Segur. Aelod Anweithredol o’r Bwrdd a Chadeirydd Pwyllgor Archwilio’r Awdurdod Hedfan Sifil. Trysorydd Anrhydeddus y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau a Chadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Cerddorfa Symffoni Bardi.

Swyddi Anweithredol Blaenorol

Cyfarwyddwr Anweithredol Rothesay Life plc, Direct Line Group plc (Cadeirydd Pwyllgor Risg Bwrdd y Grŵp), William Hill plc, Old Mutual Wealth plc (Cadeirydd Pwyllgor Risg y Bwrdd) ac Aviva Iwerddon (Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio). Aelod Annibynnol o Bwyllgor Tegwch i Gwsmeriaid ReAssure Ltd.

Aelodaeth o bwyllgorau

Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Cyllid. Aelod o Bwyllgor Prosiect Cwm Taf, Pwyllgor yr Amgylchedd, Cymdeithasol a Llywodraethu, a’r Pwyllgor Ansawdd a’r Amgylchedd.