Barbara Moorhouse

Cyfarwyddwr Anweithredol


Penodwyd: Ionawr 2023

Profiad

Mae gan Barbara brofiad helaeth fel Cadeirydd, Cadeirydd Pwyllgorau a Chyfarwyddwr Anweithredol ar draws nifer o sectorau busnes. Treuliodd y rhan fwyaf o’i gyrfa weithredol mewn rolau strategol, masnachol a chyllid mewn cwmnïau rhestredig, gan gynnwys fel Prif Swyddog Cyllid gyda dau gwmni meddalwedd rhyngwladol rhestredig (Kewill Systems plc a Scala Business Solutions NV), fel Cyfarwyddwr Cyllid Grŵp Morgan Sindall plc, ac fel Cyfarwyddwr Rheoliadol gyda South West Water plc. Mae Barbara wedi gweithio yn y sector cyhoeddus hefyd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Drafnidiaeth, a Phrif Swyddog Gweithredol Cyngor Dinas San Steffan.

Swyddi Anweithredol cyfredol eraill

Cadeirydd Agility Trains Group, cwmni gwasanaethau trên dan berchnogaeth breifat. Cyfarwyddwr Annibynnol Uwch a Chadeirydd Pwyllgor Taliadau Aptitude Software Group plc. Cyfarwyddwr Anweithredol gyda Balfour Beatty plc. Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd Pwyllgor Archwilio Medica Group plc.

Aelodaeth o bwyllgorau

Cadeirydd Bwrdd Diogelwch a Safonau’r Rheilffyrdd. Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd Pwyllgor Taliadau IDOX plc. Ymddiriedolwr a Chadeirydd Pwyllgor Archwilio Elusen Guy’s and St Thomas’. Cyfarwyddwr Anweithredol Grŵp Clinigol Gorllewin Hampshire.

Aelodaeth o bwyllgorau

Aelod o’r Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch. Bwriedir i Barbara olynu Graham Edwards fel Cadeirydd y Pwyllgor hwn ym mis Gorffennaf 2023, pan fydd Graham yn ymddeol o’r Bwrdd.