Ein Fframwaith Sicrwydd


Ein huchelgais yw ennill ymddiriedaeth ein cwsmeriaid bob dydd.

Ein fframwaith sicrwydd

Roedd croeso i’r cyhoeddiad ‘Fframwaith Monitro Cwmnïau’ gan Ofwat ym mis Mehefin 2015 gan ei fod yn herio pob cwmni i:

  • gyhoeddi gwybodaeth sy’n gywir ac yn ddibynadwy yn gyson;
  • parhau i adolygu pa wybodaeth y mae ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid ei heisiau a’i hangen; a
  • Bod yn dryloyw am y sicrwydd data y maent yn ei gyflwyno.

Mae’r Fframwaith Monitro Cwmnïau yn disgrifio tri chategori o sicrwydd. Caiff cwmnïau eu neilltuo i gategorïau yn flynyddol gan Ofwat, yn dilyn cyfres o asesiadau sy’n cwmpasu ystod eang o wybodaeth. Y tri chategori yw:

  • hunan-sicrwydd, pan fo cwmni’n darparu sicrwydd y tu hwnt i ofynion sicrwydd cyffredin yn ôl ei ddisgresiwn ei hun;
  • sicrwydd wedi’i dargedu, pan fo cwmni’n colli disgresiwn ar rai meysydd sicrwydd y tu hwnt i’r gofynion sicrwydd cyffredin; a
  • sicrwydd rhagnodedig, pan fo cwmni’n colli disgresiwn ar nifer fawr o feysydd sicrwydd y tu hwnt i’r gofynion sicrwydd cyffredin.

Yn asesiad terfynol Ofwat ym mis Ionawr 2019, roeddem yn falch iawn o gael ein dyrchafu i’r 'categori hunan sicrwydd’, a chadarnhaodd Ofwat:

"Mae Dwr Cymru dangos y lefel uchel gyson sydd ei hangen mewn cwmni "hunansicrwydd" a gwnaethant fodi oni'r meini prawf i gael eu dyrchafu i'r categori hunansicrwydd"

Ein nod parhaus yw darparu gwybodaeth sy’n hawdd ei dilyn a dod o hyd iddi ac sy’n galluogi cwsmeriaid i ddeall sut yr ydym yn perfformio. Rydym yn cydnabod bod hyn yn helpu i roi hyder ac ymddiriedaeth yn yr wybodaeth yr ydym yn ei chyhoeddi i gwsmeriaid a rhanddeiliaid.

Mae gennym fframwaith sicrwydd ac archwilio, sydd wedi ei brofi ac arbrofi, ac sy’n sicrhau bod safonau ansawdd yn cael eu bodloni. Ceir crynodeb o hyn isod. Ond mae gennym hefyd ddolenni i’r gwahanol ddogfennau a gyhoeddwyd ers i Ofwat gyflwyno’r Fframwaith Monitro Cwmnïau, ar ein tudalen we, sy’n benodol ar gyfer ein fframwaith sicrwydd.

Ein Fframwaith Sicrwydd

Rheoli Mewnol

 Craffu Annibynnol

 Adolygu Annibynnol

 
  •  Canllawiau Ysgrifenedig
  • Hyfforddiant
  • Adolygiadau Rheoli
  • Gwiriadau Rheoli
  •  Timau Arbenigol, e.e.Cydymffurfio, Cyfreithiol, Rheoleiddol
  • Uwch Reolaeth
  • Pwyllgor Archwilio
  • Bwrdd
  •  Archwilio Mewnol
  • Archwilio Allanol
  • Archwilio Technegol
  • Arbenigwyr Allanol