Rheoleiddio Economaidd


Fel darparwr dŵr a charthffosiaeth trwyddedig, cawn ein rheoleiddio gan Ofwat ac rydym yn ddarostyngedig i bolisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU fel y bo'n briodol.

Yma gallwch ddysgu mwy am y gwahanol agweddau ar reoleiddio economaidd gan gynnwys dolenni i ddogfennau amrywiol a gwybodaeth y mae'n ofynnol i ni ei chyhoeddi, fel ein tariffau a'n taliadau, Adroddiadau Perfformiad Blynyddol a chyflwyniadau Adolygu Prisiau.

Prisiau

Ein Cynllun Taliadau, sy'n nodi'r prisiau a godir gennym am y gwahanol wasanaethau a ddarparwn i wahanol fathau o gwsmeriaid. Mae'r Cynllun Taliadau yn cynnwys y taliadau i ddefnyddwyr terfynol ac maent yn cynnwys elfen gyfanwerthu ac elfen fanwerthu. Mae'r Rhestr o Daliadau Cyfanwerthu yn dangos elfen gyfanwerthu y taliadau gan ddefnyddiwr terfynol.

Adrodd ar ein Perfformiad

Rydym yn adrodd yn rheolaidd ar ein perfformiad yn unol â'n rhwymedigaethau. Mae hyn yn helpu i roi gwybodaeth i'n cwsmeriaid am sut yr ydym yn gwneud, ac i Ofwat gymharu ein perfformiad â chwmnïau eraill.

Defnyddir y wybodaeth hon am berfformiad hefyd i gyfrifo'r gwobrau a'r cosbau a ddefnyddir yn unol â'r cynllun Cymhelliant Cyflawni Canlyniadau (ODI).

Rydym yn dilyn fframwaith sicrwydd diffiniedig i sicrhau bod y data a adroddwn yn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol, a thrwy sianeli eraill, yn ddibynadwy ac yn gywir. Ceir rhagor o wybodaeth isod yn ein Dogfennau Fframwaith Sicrwydd.

Ymatebion i'r Ymgynghoriad

Rydym yn ymateb yn rheolaidd i ymgynghoriadau Ofwat ar faterion rheoleiddio. Mae ymgynghoriadau allweddol wedi'u cynnwys yn ein llyfrgell ymatebion i'r ymgynghoriad isod.

Cyflwyniadau adolygu Ein Pris

Bob pum mlynedd rydym yn datblygu ac yn cyflwyno ein Cynllun Busnes rheoleiddiol i Ofwat, gan nodi'r gwariant arfaethedig, yr amcanion perfformiad, a lefel y biliau cyfartalog ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae gwybodaeth am ein cyflwyniad Adolygiad Prisiau diwethaf (PR19) ar gael yn y llyfrgell isod.