Cystadleuaeth a Marchnadoedd


Rydym ni’n trin holl gwsmeriaid ein gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth yn deg, pa un a gaiff eu gwasanaeth Manwerthu ei ddarparu gan Dŵr Cymru (drwy’r Tîm Manwerthu Masnachol) neu drwy Fanwerthwr trydydd parti.

Ers 1 Ebrill 2017, mae holl gwsmeriaid dibreswyl ein gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth sy’n cael eu gwasanaethu gan gyflenwyr sydd wedi eu lleoli yn gyfan gwbl neu yn bennaf yn Lloegr yn cael dewis eu Manwerthwr (h.y. mae’r trothwy cyflenwad dŵr presennol o 5ML/y flwyddyn wedi ei ddiddymu). Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu na fydd newid i’r farchnad Manwerthu mewn ardaloedd a gyflenwir gan gwmnïau dŵr a charthffosiaeth sydd wedi eu lleoli yn gyfan gwbl neu yn bennaf yng Nghymru, felly mae’r farchnad busnes manwerthu gystadleuol yng Nghymru yn dal i fod wedi’i chyfyngu i gyflenwi gwasanaethau dŵr i safleoedd cwsmeriaid busnes sy’n defnyddio mwy na 50ML o ddŵr y flwyddyn.

I gael mwy o wybodaeth am y farchnad newydd, meini prawf cymhwysedd a chyngor am newid cyflenwr ewch i www.open-water.org.uk.


Mynediad i’r rhwydwaith a chyfanwerthu

Ni piau a ni sy’n cynnal a chadw yr holl bibellau sy’n dod â dŵr glan i chi ac yn cael gwared ar eich dŵr budr. Caiff manwerthwyr dŵr eraill brynu dŵr o’n busnes ‘cyfanwerthu’ i’w werthu wedyn i’w cwsmeriaid mawr. Mae ein dogfen taliadau cyfanwerthu (gweler isod) yn esbonio sut yr ydym yn codi tâl am y gwasanaeth hwn. Yn yr un modd, caiff cwmnïau sydd â mynediad at adnoddau dŵr wneud cais i drosglwyddo dŵr drwy ein rhwydwaith i gyflenwi cwsmeriaid mawr. I gael mwy o fanylion, gweler ein dogfennau Masnachu a Thalu am Ddŵr isod. Os ydych chi’n Fanwerthwr ar gyfer cwsmer busnes yn ardal gweithredu Dŵr Cymru a bod gennych gais gwasanaeth Cyfanwerthu, neu os ydych chi’n Fanwerthwr sydd yn dymuno cytuno ar Gontract Cyfanwerthu ar gyfer Gwasanaethau Cyfanwerthu gyda Dŵr Cymru neu ar gyfer ymholiadau eraill ynglŷn â chael mynediad i’n rhwydwaith, cysylltwch â’n Canolfan Gwasanaeth Cyfanwerthu.


Masnachu adnoddau dŵr a bioadnoddau

Rydym ni’n credu y gallai fod buddion i’n cwsmeriaid yn codi o gyfleoedd newydd sy’n ymwneud â masnachu gwasanaethau bioadnoddau ac adnoddau dŵr. Er mwyn helpu i nodi cyfleoedd o’r fath, rydym ni wedi cyhoeddi gwybodaeth yn unol â gofynion Ofwat ynglŷn â’n gweithgareddau bioadnoddau a dŵr gwastraff. Bydd gwybodaeth marchnad debyg yn ymwneud ag adnoddau dŵr yn dilyn cyn bo hir. Gweler isod am ddolen i’r ddogfennaeth.