Glas Cymru


Sefydlwyd Glas Cymru fel cwmni un pwrpas i brynu, ariannu a rheoli Dŵr Cymru. ‘Cwmni cyfyngedig trwy warant’ yw Glas Cymru, nid oes cyfranddeiliaid ganddo ac felly mae’n gallu ail–fuddsoddi unrhyw elw ariannol er lles cwsmeriaid Dŵr Cymru.

O dan berchnogaeth Glas Cymru, bondiau a gwargedion ariannol sy’n ariannu asedau a buddsoddiad cyfalaf Dŵr Cymru. Nod model busnes Glas Cymru yw lleihau costau ariannu asedau Dŵr Cymru, sef prif gostau unrhyw gwmni dŵr.

Hyd yma defnyddiwyd yr arbedion ariannol i ddatblygu cronfeydd wrth gefn y cwmni er mwyn diogelu Dŵr Cymru a’i gwsmeriaid rhag unrhyw gostau annisgwyl a gwella ansawdd ei gredyd er mwyn cadw’r costau ariannu mor isel â phosibl yn y dyfodol.

Cefndir

Creodd Nigel Annett a Chris Jones Glas Cymru. yn 2000, gyda chefnogaeth Cadeirydd cyntaf y cwmni, yr Arglwydd Burns. Ffurfiwyd y cwmni ag un pwrpas yn unig, sef caffael a rheoli Dŵr Cymru, sy’n darparu gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru a rhai ardaloedd cyfagos yn Lloegr. Ar ôl proses a gymrodd rhyw 18 mis, llwyddodd Glas Cymru i gaffael Dŵr Cymru gan Western Power Distribution (cwmni rhwydweithiau trydan y mae ei berchnogion yn UDA) ym mis Mai 2001. Cafodd hyn ei gyllido gan fond diogelu gwerth £1.9 biliwn (sef y bond diogelu corfforaethol mwyaf erioed na chafodd ei ariannu gan y llywodraeth mae’n debyg).

Mae Glas Cymru’n unigryw yn niwydiant cyfleustodau’r DU o ran:

  • ei fod yn gwmni preifat heb unrhyw gyfranddeiliaid,
  • ei fod yn cael ei ariannu trwy’r marchnadoedd cyfalaf, heb unrhyw gymorth gan y llywodraeth; a
  • bod unrhyw elw y mae’r busnes yn ei wneud yn cael ei ddefnyddio er budd ei gwsmeriaid.

Mae Dŵr Cymru’n darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol ar gyfer cartrefi, busnesau a’r amgylchedd yng Nghymru. Busnes dwysgyfalafol iawn yw hi, ag asedau a fydd yn parhau i wasanaethu o genhedlaeth i genhedlaeth yn y dyfodol. Mae ganddo raglen buddsoddi cyfalaf helaeth iawn. Mae’n fuddsoddiad cyfalaf sylweddol, mwy na £6 biliwn ers 2001, gyda symiau tebyg wrth symud ymlaen. Strategaeth y cwmni yw darparu credyd diogel a thymor hir ar gyfer ei fuddsoddwyr (fel cronfeydd pensiwn a chwmnïau yswiriant) er mwyn codi’r cyllid angenrheidiol am y gost isaf bosibl, gan gadw’r biliau’r cwsmeriaid mor isel â phosibl (y mae rhyw draean ohonynt yn mynd i ariannu buddsoddiadau).

“Cwmni wedi ei gyfyngu drwy warant” yw Glas Cymru; nid oes unrhyw gyfranddeiliaid ganddo ac felly ei Fwrdd sy’n gyfrifol am ei swyddogaethau llywodraethu corfforaethol. Mae gan y Bwrdd fwyafrif o gyfarwyddwyr anweithredol annibynnol, a phenodir ei aelodau, sef rhyw 50 o unigolion, gan banel dethol o aelodau annibynnol. Nid yw’r aelodau’n cynrychioli grwpiau o fudd-ddeiliaid allanol, ond yn hytrach unigolion digyflog ydyn nhw sydd â dyletswydd i sicrhau bod y cwmni’n rhedeg yn dda, er budd ei gwsmeriaid.

Ymhlith llwyddiannau’r grŵp hyd yn hyn mae:

  • buddsoddi rhyw £6 biliwn er mwyn gwella ansawdd dŵr yfed a gwasanaethau i gwsmeriaid, ac amddiffyn yr amgylchedd – heb unrhyw gost i’r trethdalwyr.
  • gerio ariannol wedi ei leihau o 93% i tua 60%, sy’n cael ei adlewyrchu yn y ffaith fod gennym ni’r safonau credyd cryfaf (A-/A3/A) yn sector dŵr Prydain
  • rydym wedi dychwelyd £440 miliwn i’r cwsmeriaid, ar ffurf ‘buddrannau cwsmeriaid’ a mwy na £10 miliwn o gymorth i grwpiau o gwsmeriaid sydd o dan anfantais ar ffurf tariffau cymdeithasol a chronfeydd cymorth
  • biliau cyfartalog is mewn termau gwirioneddol nag yn 2000, a hynny’n rhannol am fod gennym ni gofnod gorau’r sector o ran lleihau costau a gwella effeithlonrwydd.

Gallwch weld gweledigaeth 25 mlynedd Dŵr Cymru, “Ein Dyfodol Cynaliadwy” trwy glicio yma.

Adroddiad dŵr

PDF, 2.1MB

Cliciwch yma i lawrlwytho ein hadroddiad dŵr