PestSmart


Mae PestSmart yn annog pobl i ystyried dulliau doethach o reoli chwyn, plâu ac afiechydon sy’n cael llai o effaith ar bobl, dŵr neu fywyd gwyllt.

Mae ein rhaglen gyffredin o waith monitro dŵr wedi datgelu bod olion cynyddol o blaladdwyr mewn ardaloedd lle nad ydym wedi eu gweld nhw o'r blaen. Er bod y lefelau hyn yn rhy isel i beryglu'r bobl sy'n yfed y dŵr, maen nhw'n ddigon i beryglu mynd yn groes i'r safonau llym a bennwyd ar gyfer dŵr yfed, felly rydyn ni am weithio gyda chi i daclo’r broblem gyda'n gilydd. Trwy amddiffyn a gwella ansawdd dŵr crai cyn iddo fynd i'n gweithfeydd trin dŵr, gallwn osgoi'r angen am ddefnyddio cemegolion ac ynni ychwanegol i wneud eich dŵr yfed yn berffaith.

Bydd hyn yn ein helpu ni i gadw biliau'n isel, a bydd yn amddiffyn yr amgylchedd am genedlaethau i ddod.

Dyna pam rydyn ni wedi creu PestSmart, prosiect sy'n annog pobl i ystyried dulliau 'doethach' o reoli chwyn, plâu ac afiechydon nad ydynt yn effeithio ar bobl, dŵr neu fywyd gwyllt.

Trwy weithio gyda ffermwyr, tyfwyr, perchnogion tir a garddwyr ar draws Cymru, rydyn ni'n helpu pobl a chymunedau i ystyried eu dulliau o reoli tiroedd er mwyn helpu i amddiffyn ansawdd dŵr crai.

I'n helpu ni i gyflawni'r gwaith yma, rydyn ni wedi cael bron i £1 filiwn trwy Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru. Bydd y cyllid yma'n ein galluogi ni i ehangu PestSmart ar draws Cymru gyfan.

Beth yw PestSmart?

Mae ein Prosiect PestSmart yn annog pobl i ystyried dulliau 'doethach' o reoli chwyn, plâu ac afiechydon nad ydynt yn effeithio ar bobl, dŵr neu fywyd gwyllt.

Trwy weithio gyda ffermwyr, tyfwyr, perchnogion tir a garddwyr ar draws Cymru, rydyn ni'n helpu pobl a chymunedau i ystyried eu dulliau o reoli tiroedd er mwyn helpu i amddiffyn ansawdd dŵr crai.

Mae’r anemeiddiad isod yn esbonio mwy:

Partneriaid