Cynllun Iawndal Dŵr


Mae’r Cynllun Iawndal Dŵr yn wasanaeth dyfarnu annibynnol ac am ddim sy’n adolygu anghydfod rhwng cwsmeriaid a chwmnïau nad yw Cyngor Defnyddwyr Dŵr Cymru wedi llwyddo i’w ddatrys.)

Os yw eich cwyn wedi’i adolygu gan Gyfarwyddwr cwmni a’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr, a’ch bod yn dal i fod yn anhapus gallwch gysylltu â’r Cynllun Iawndal Dŵr yn uniongyrchol. Mae eu manylion cyswllt isod. Gallwch wneud cais ar eu gwefan neu ofyn iddyn nhw anfon ffurflen gais atoch chi.

Ynglŷn â’r Cynllun Iawndal Dŵr

Mae’r Cynllun Iawndal Dŵr yn wasanaeth dyfarnu annibynnol i ddatrys anghydfod rhwng cwsmeriaid a chwmnïau dŵr (a charthffosiaeth). Gweithredir y Cynllun Iawndal Dŵr gan y Cynllun Datrys Anghydfod Annibynnol (IDRS), uned gwasanaeth cwsmeriaid y Ganolfan Datrys Anghydfod yn Effeithiol (CEDR), corff dielw sy’n gwbl annibynnol ar y diwydiant dŵr.

Pwy all ddefnyddio’r Cynllun

Gall y bobl ganlynol wneud cais:

  • Cwsmeriaid cartref (fel y diffiniwyd yn Llawlyfr Gweithdrefn Cwyno y Cwmni);
  • Cwsmeriaid dibreswyl (fel y diffiniwyd yn Llawlyfr Gweithdrefn Cwyno y Cwmni);
  • Cwsmeriaid awdurdodedig neu gynrychiolwyr cwsmeriaid;
  • Gellir gwneud cais ar ran mwy nag un cwsmer. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddyn nhw gael eu henwi ac mae’n rhaid iddyn nhw lofnodi’r cais i gadarnhau eu bod yn dymuno cyfeirio’r gŵyn i ddyfarniad. Fel arall, mae’n rhaid i bob un gadarnhau ei fod yn cytuno i gynrychiolydd weithredu ar ran yr holl lofnodwyr. Ar ôl i gais ddechrau, ni cheir ychwanegu rhagor o enwau, i osgoi oedi yn y broses.

Rheolau’r Cynllun

Ni cheir defnyddio’r Cynllun ac eithrio i ddatrys anghydfod sy’n ymwneud â:

  • Biliau, taliadau, casgliadau ac atafael dyled;
  • Mesur;
  • Gwasanaethau cyflenwad dŵr;
  • Gwasanaethau dŵr gwastraff/carthffosiaeth;
  • Datblygiad a chyflenwad newydd;
  • Materion eraill sydd wedi bod yn destun gweithdrefn cwyno fewnol y cwmni nad ydynt wedi eu cynnwys yn yr eithriadau isod.

Cod Ymddygiad

Bydd Dŵr Cymru yn sicrhau ymrwymiad i ddarparu cynllun Datrys Anghydfod Amgen (DAA), am ddim i gwsmeriaid;

  • Ymrwymiad i ddilyn egwyddorion DAA;
  • Ymrwymiad i barchu annibyniaeth Darparwr y Gwasanaeth DAA
  • Ymrwymiad i ddilyn penderfyniad dyfarnwr DAA os caiff ei dderbyn gan y cwsmer ac i roi’r penderfyniad ar waith fel sy’n ofynnol yn ôl Rheolau’r Cynllun;
  • Ymrwymiad i gydweithredu â’r Panel DAA ac i ystyried ei argymhellion
  • Ymrwymiad i ddarparu gwybodaeth i ddyfarnwyr DAA ac i gydweithredu â nhw;

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Rydym ni bob amser yn ceisio gwneud pethau’n iawn, y tro cyntaf, bob tro – ond rydym ni’n gwybod y gall pethau fynd o’i le. Mae ein llyfryn ‘Sut yr ydym yn ymdrin â’ch cwynion’ yn esbonio sut y gallwch chi wneud cwyn a sut y byddwn yn ymdrin ag ef.

Mae’r Cynllun Iawndal Dŵr yn wasanaeth dyfarnu annibynnol am ddim sy’n adolygu anghydfod rhwng cwsmeriaid a chwmnïau nad yw Cyngor Cwsmeriaid Dŵr Cymru wedi llwyddo i’w ddatrys.

Os yw eich cwyn wedi’i adolygu gan Gyfarwyddwr cwmni a’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr, a’ch bod yn dal i fod yn anhapus gallwch gysylltu â’r Cynllun Iawndal Dŵr yn uniongyrchol.

Y manylion cyswllt yw –
WATRS
International Dispute Resolution Centre
70 Fleet Street, Llundain, EC4Y 1EU
Rhif ffôn: 0207 123 4567
www.watrs.org