Wynnstay Avenue
Rydym yn buddsoddi £2.3 miliwn er mwyn uwchraddio’r system garthffosiaeth yn ardal Wynnstay Avenue, Parc Caia, Wrecsam. Yma cewch wybodaeth am y gwaith a sut y gall effeithio arnoch.
Bydd y gwaith yn dechrau ar 27 Gorffennaf ac fe ddylem fod wedi gorffen erbyn mis Chwefror 2021, ond byddwn yn gwneud ein gorau i orffen yn gynt. Rydym yn gwneud y gwaith am fod carthffosydd Wynnstay Avenue yn cludo’r dŵr glaw sy’n dod o’ch to a’ch gwteri yn ogystal â’r dŵr gwastraff o’ch cartrefi. Mae hyn yn golygu, pan fydd yn bwrw’n drwm, mae’r system yn gorlenwi ac weithiau gall y dŵr orlifo trwy gaeadau’r siambrau archwilio gan greu llifogydd.
Er mwyn atal hyn rhag digwydd, rydym yn mynd greu mwy o le yn y rhwydwaith drwy adeiladu tanc storio dan y ddaear yn y tir glas rhwng Wynnstay Avenue a Deva Way. Byddwn hefyd yn gosod pibelli newydd i fynd a’r dŵr i’r tanc ac allan eto pan fydd lle yn y rhwydwaith. Bydd y gwaith yn helpu i gadw’r carthffosydd rhag gorlifo ond ni fydd yn helpu i ddatrys problem llifogydd dŵr wyneb gan nad yw Dŵr Cymru’n gyfrifol am lifogydd dŵr wyneb ar y ffyrdd.
Bydd y gwaith yma’n cael ei wneud gan ein partneriaid Morgan Sindall. Bydd eu tîm yn gweithio ar y safle ddydd Llun i ddydd Gwener, o 7.30am tan 5.30pm, ond efallai y bydd angen iddynt weithio’n hwyrach neu ar benwythnosau er mwyn cwblhau’r gwaith.
Tra byddwn yn gweithio yn yr ardal, bydd gennym swyddfeydd ag ardal storio ar y glaswellt rhwng Deva Way a Wynnstay Avenue drws nesaf i ble fydd y tanc yn mynd. Wedi i ni orffen y gwaith byddwn yn gadael y ffens fyny am ychydig fisoedd ac yna yn dod nol i hadu’r tir er mwyn iddo fod yn laswellt eto.
Wynnstay Avenue
Pan fyddwn yn gosod y bibell newydd yn Wynnstay Avenue, bydd angen i ni gau darn o’r ffordd. Bydd hyn yn digwydd am ryw 6 wythnos o 7 Medi ymlaen. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y traffig yn cael ei anfon trwy Moorland Avenue. Byddwn yn gwneud yn siŵr fod digon o arwyddion i adael i chi wybod. Tra bydd y ffordd ar gau, cofiwch roi’ch biniau sbwriel ac ailgylchu allan fel arfer i’w casglu.
Bydd llwybrau’r bysiau’n cael eu newid tra bydd y ffordd ar gau a bydd y safleoedd bysiau agosaf ar Hullah Lane a Travenna Way ond byddant yn symud yn ôl eto ar ôl ailagor y ffordd. Cysylltwch â’r cwmni bysiau am fwy o wybodaeth am hyn.
Bydd rhan o’r llwybr troed yn rhan uchaf Wynnstay Ave wedi cau tra byddwn ni’n gosod y bibell ar draws y llwybr ac eto byddwn yn codi arwyddion i adael i chi wybod. ddweud pryd ac am faint o amser. Bydd yr un peth yn digwydd yn nes ymlaen gyda’r llwybr troed sy’n mynd heibio’r Fenter rhwng Wynnstay Avenue a Deva Way. Yma eto, byddwn yn codi arwyddion gwybodaeth ymlaen llaw er mwyn i’r cyhoedd gael gwybod pryd y caiff y llwybr troed ei gau ac am ba hyd.
Lleoliad y Tanc Storio
Caiff y tanc storio newydd ei osod o dan y ddaear rhwng Wynnstay Avenue a Deva Way. Er mwyn adeiladu’r tanc bydd angen i ni wneud twll mawr yn y ddaear. Er mwyn ei wneud yn ddiogel bydd angen rhoi waliau metel yn y twll fel na fydd y pridd yn syrthio ar i gadw’r tîm yn ddiogel wrth adeiladu’r tanc. Bydd y rhan hon o’r gwaith yn swnllyd gan y bydd angen curo’r waliau metel i’w lle. Dylai gymryd tua thair wythnos i gwblhau’r adran hon ond gwnawn ein gorau i’w orffen cyn gynted ag y bo modd fel na fyddwn yn tarfu arnoch fwy nag sydd raid. Pan y bydd y tîm yn dechrau adeiladu’r tanc storio, er mwyn iddynt allu gweithio’n ddiogel, byddwn yn defnyddio pympiau i ostwng lefel y dŵr. Bydd y pympiau yma’n rhedeg heb stopio o Hydref 14eg dan i ni orffen y gwaith ar y safle. Fe fyddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau effaith y sŵn o’r pympiau angenrheidiol hyn.
Yn ogystal, byddwn yn gosod lôn o’r briffordd, ochr yn ochr â’r llwybr rhwng Wynnstay Avenue a Deva Way fel y gallwn fynd at y tanc storio i wneud gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol. Byddwn yn defnyddio ‘grasscrete’ ar gyfer y lôn hon er mwyn cadw’r ardal yn las.
Cwestiynau Cyffredin
Rydym yn gobeithio eich bod yn gallu dod o hyd i’r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch ar y dudalen hon, ond os oes gennych chi dal unrhyw gwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio ein canolfan alwadau sydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos, 24 awr y dydd ar 0800 085 3968.
Dim ond rhan byr o Wynnstay Avenue y byddwn ni’n ei gau, felly bydd rhan fwyaf o breswylwyr yn gallu cyrraedd eu cartref gyda eu car drwy dedfnyddio’r gwyraid.
Byddant, os dilynant arwyddion y gwyriad.
Bydd ffensys diogel o gwmpas y safle. Bydd ein system ddiogelwch yn sylwi ar unrhyw un sy’n cael mynediad i’r safle tu allan i oriau gwaith a bydd yn cael ei riportio i’r Heddlu ar unwaith. Os y gwelwch chi unrhyw broblemau gyda’r safle tu allan i oriau gwaith fe allwch gysylltu â ni ar y rhifau ffôn sydd ar y ffensys.
Byddant. Bydd trefniadau ar gyfer cerbydau’r gwasanaethau brys.
Byddwch, ni fydd y gwaith yma’n effeithio ar eich gwasanaeth dŵr gwastraff.
Byddant. Os gadewch eich biniau allan fel arfer, byddent yn cael eu casglu a’u gwagio. Os oes unrhyw broblem gyda’r casgliad, cysylltwch â Chyngor Wrecsam.
Na, ni fydd y gwaith yn effeithio ar eich gwasanaethau dŵr.
Bydd y generadur yn un tawel sydd ag amserydd er mwyn sicrhau na fydd yn rhedeg trwy’r nos. Ond fe fydd yn rhedeg y tu allan i’n horiau gweithio arferol weithiau.
Bydd – byddwch yn gallu mynd at y garejis.
Ni fydd goleuadau ar y safle trwy’r nos. - Ond bydd goleuadau yn dod ymlaen yn awtomatig os bydd symud ar y safle. Mae rhain wedi eu cysylltu i’r system ddiogelwch a fydd yn gadael i ni wybod yn syth os bydd rhywun ar y safle.
Ni fyddwn yn gweithio mewn gerddi heb gysylltu gyda chi’n gyntaf. Os y byddwn ni’n gweithio yn eich gardd, byddwn yn rhoi popeth yn nôl fel ag yr oedd.