Pen-y-bont
Rydyn ni'n buddsoddi £6.1 miliwn yn rhwydwaith dŵr sir Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd hyn yn helpu i ddarparu cyflenwad diogel a dibynadwy o ddŵr yfed ar gyfer ein cwsmeriaid yn yr ardal am ddegawdau i ddod.
Bydd y gwaith yn helpu i ddiogelu cyflenwadau ein cwsmeriaid ac yn lliniaru’r problemau y mae rhai o gwsmeriaid yr ardal yn eu dioddef ar hyn o bryd o ran colli cyflenwadau neu bwysedd dŵr isel.
Pa waith sydd o dan sylw?
Am fod rhai rhannau o'r rhwydwaith yn dod at ddiwedd eu hoes weithredol, byddwn ni’n disodli neu’n glanhau tua 35k o brif bibellau dŵr trwy’r buddsoddiad hwn. Mae hynny hyd bron i 358 o gaeau pêl droed.
Ymhle fydd y gwaith yma'n digwydd?
Bydd y gwaith, a ddechreuodd ym mis Mai 2020, yn cael ei gyflawni ar draws rhannau o sir Pen-y-bont ar Ogwr, ac rydyn ni'n disgwyl ei gwblhau erbyn Ebrill 2021.
Byddwn ni'n rhannu'r newyddion diweddaraf am y gwaith â holl drigolion a busnesau'r ardal, ac fe wnawn ni'n gorau glas i achosi cyn lleied o drafferth â phosibl wrth uwchraddio'r pibellau dŵr.
Mae’r ardaloedd a fydd yn elwa ar y buddsoddiad yn cynnwys Maesteg, Pencoed, Sarn a Chwm Garw.
Eich dŵr
Ni ddylai'r rhan fwyaf o'r gwaith darfu ar eich cyflenwad. Fodd bynnag, oherwydd natur y gwaith sydd o dan sylw, mae'n bosibl y bydd angen i ni ddatgysylltu eich cyflenwad dŵr am gyfnod byr (hyd at 3 awr). Os felly, byddwn ni'n anfon neges destun atoch ar y diwrnod i roi gwybod i chi.
Mae wybodaeth am sut y gallwch gofrestru i gael diweddariadau isod.
Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin
Rydym eisiau parhau i ddarparu cyflenwad dwr diogel, dibynadwy a glân i'n cwsmeriaid yn yr ardal am flynyddoedd i ddod.
Bydd y gwaith yn helpu i sicrhau cyflenwadau di-dor i’n cwsmeriaid yn yr ardal fel nad yw toriadau yn y cyflenwad a gwasgedd dŵr isel yn gymaint o broblem i rai ohonynt.
Mae rhai o’n pibellau sy’n cario dŵr i gwsmeriaid ar gyfer eu cawod a’u paned yn y bore dros gant oed. Dros amser, gall dyddodion naturiol grynhoi y tu mewn i’r pibellau gan arafu llif y dŵr. Er nad yw’r dyddodion hyn yn niweidiol, mae angen i ni glirio’r pibellau bob hyn a hyn fel bod y dŵr yn rhedeg yn rhwydd.
Ni fydd y gwaith yn effeithio ar y rhan fwyaf o’n cwsmeriaid ac mae’n fwy na thebyg na fyddant hyd yn oed yn sylwi bod y gwaith yn cael ei wneud ond byddwn yn ysgrifennu at unrhyw gwsmeriaid y gallai’r gwaith effeithio arnynt gan roi'r holl wybodaeth y bydd arnynt ei angen.
Ni ddylai fod unrhyw ymyrraeth â'ch cyflenwad dŵr dros yr amser yma. Ond oherwydd natur y gwaith yma, mae'n bosibl y bydd angen i ni ddatgysylltu eich cyflenwad dŵr am gyfnod byr (hyd at 3 awr) o fewn yr wythnos nesaf. Byddwn ni'n anfon neges destun atoch ar y diwrnod pan rydyn ni’n bwriadu datgysylltu’r cyflenwad i roi gwybod i chi ein bod ni'n bwriadu gwneud hynny.
Cofiwch sicrhau fod gennym rif ffôn symudol neu linell dir cyfredol ar gyfer eich aelwyd fel y gallwch dderbyn y neges destun yma. Gallwch sicrhau bod eich manylion yn gyfoes a’u diweddaru trwy gysylltu â ni trwy Sgwrs Fyw (gan ddefnyddio'r botwm Angen Help) ar ein gwefan neu trwy ffonio ein rhif cyswllt 24-awr ar 0800 052 0130.
Byddwn ni'n hysbysu cwsmeriaid bregus a'r rhai ag anghenion ychwanegol sydd wedi cofrestru ar gyfer Gwasanaethau Blaenoriaeth am ein bwriad i ddatgysylltu dros dro, a byddwn yn darparu dŵr potel ar eu cyfer os oes angen. Os oes angen dŵr potel arnoch wrth i ni gyflawni'r gwaith, yna gallwn ni drefnu hynny i chi.
Mae dŵr afliw yn annhebygol o niweidio eich iechyd ond ni fyddem ni’n disgwyl i unrhyw un ei yfed os yw’n edrych yn annymunol. Fel arfer, mae’n clirio’n weddol gyflym ar ôl rhedeg y tap am ychydig funudau, ond weithiau bydd angen rhedeg y tap am ryw 45 munud cyn iddo glirio. Os ydych chi’n poeni ac nad yw lliw y dŵr wedi clirio, cysylltwch â ni.
Dylech osgoi golchi dillad nes bod y dŵr yn glir ond os ydych chi wedi gwneud hyn ac mae’r dŵr afliw wedi staenio eich dillad, golchwch nhw eto pan fydd y cyflenwad wedi clirio. Os yw’r dillad wedi’u staenio ar ôl eu golchi eto, cadwch y dillad sydd wedi’u staenio a chysylltwch â ni.
Yn eich ardal
Cysylltu â’r newyddion
I glywed am gyfleoedd eraill i siarad â'r tîm, a gwybodaeth am unrhyw ffyrdd a fydd ar gau i draffig, ewch i yn eich ardal a chwilio dan eich cod post.