Tan-hau Indrawn 2022
Yn dilyn treial llwyddiannus yn 2021, rydyn ni'n cynnig ein cynllun tan-hau indrawn ar gyfer dalgylchoedd dŵr yfed yn ne-orllewin Cymru am yr ail flwyddyn. Mae'r cynllun yn rhan o'n rhaglen barhaus i ddiogelu ansawdd dŵr yfed. Mae'n cynnig cyfleoedd i dyfwyr indrawn gael Ymweliad Siarter cyfrinachol rhad ac am ddim gan y Gymdeithas Tyfu Indrawn (MGA), a thaliad untro i dan-hau cnydau indrawn â glaswellt.
Mae cofrestru wedi agor a mater o’r cyntaf i'r felin gaiff falu yw hi.
Cysylltwch â'n partneriaid, Field Options, sy'n gweithio gyda ni i gynnig y cynllun hwn.
E-bostiwch: GarethWilliams@procam.co.uk
Ffôn: 07581750173
Fel arall, gallwch gysylltu ag un o'n Cydlynwyr Partneriaethau Dalgylch
E-bost: WaterSource@dwrcymru.com
Ffôn: 01443 452716.
Cofrestru
Gallwch gofrestru eich diddordeb gyda Field Options heddiw trwy ffonio 07581 750173 neu gallwch siarad ag un o'n Cydlynwyr Partneriaethau Dalgylch trwy ffonio 01443 452716.
Cadarnhau
Byddwn ni'n cadarnhau cymhwyster.
Ymweliadau Siarter
Anogir yr holl dyfwyr cymwys i gymryd rhan mewn Ymweliad Siarter gyda'r MGA. Gwasanaeth cyfrinachol a rhad ac am ddim yw hwn a ddarperir gan ymgynghorydd o MGA. Bydd yr Ymweliad Siarter yn canolbwyntio ar dri phrif faes wrth reoli indrawn:
- Arweiniad ar addasrwydd y safle (cae) a'r grŵp aeddfedrwydd
- Cynllunio Rheoli Maetholion â ffocws ar gyflenwadau a'r galw am Nitrogen a Ffosffadau
- Rheoli'r cae indrawn ar ôl cynaeafu gan gynnwys tan-hau a hau’r cnydau gorchudd wedyn, yn ogystal â thrin y tir ar ôl cynaeafu, sydd oll yn canolbwyntio ar leihau colledion o ran pridd a maetholion yn yr hydref a'r gaeaf ar ôl cynaeafu'r indrawn.
Yn sgil yr ymweliad, caiff y tyfwyr Adroddiad Siarter gan yr MGA.
Tan-hau
Bydd angen i chi hysbysu Field Options pan fyddwch wedi hau’r indrawn er mwyn trefnu derbyn eich hadau glaswellt. Mae angen tan-hau’r rhain tua 6 wythnos yn ddiweddarach (pan fo 4-6 o ddail ar yr indrawn).
Rhaid prynu'r hadau gan Field Options yn uniongyrchol er mwyn derbyn y cymhorthdal. Tynnir y cymhorthdal o £6/erw o'r cyfanswm. Rhaid tan-hau'r holl hadau glaswellt a brynir trwy’r cynllun ag indrawn. Ni ddylid defnyddio'r hadau at ddibenion eraill o dan unrhyw amgylchiadau.
Gweler yr Amodau a Thelerau am fanylion llawn.
Mae'r cynllun ar gael i dyfwyr indrawn yn y dalgylchoedd dŵr yfed canlynol
- Llys-y-Frân
- Rosebush
- Cleddau Ddu
- Cleddau Wen
- Valley Court
- Pentywyn
Mae’r map yma'n dangos yr ardaloedd cymwys:
Os ydych chi'n ansicr ynghylch eich cymhwyster, ffoniwch Field Options ar 07581750173. Neu, gallwch ffonio un o'n cydlynwyr partneriaeth dalgylch ar 01443 452716.