Gweithio gyda chymunedau ym Mlaenau Cwm Rhymni


Fel sefydliad nid-er-elw, cwsmeriaid sydd wrth galon popeth a wnawn, a dros y blynyddoedd nesaf byddwn ni'n gweithio gyda chymunedau lleol ym Mlaenau Cwm Rhymni - o helpu pobl sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau i ddosbarthu nwyddau am ddim i leihau defnydd o ddŵr. Byddwn ni'n mynd allan i ysgolion lleol ym Mlaenau Cwm Rhymni hefyd i gynnig gwersi hwyliog, ac yn cefnogi prosiectau cymunedol lleol.

Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae'n bosibl y sylwch chi fod gweithwyr Dŵr Cymru mewn achlysuron yn y gymuned ac yn ymweld â grwpiau a sefydliadau lleol yn eich ardal. Yn ystod y gweithgareddau hyn, byddwn ni'n siarad â chwsmeriaid lleol am yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael, o arbed arian ar eich biliau i wella'ch amgylchedd lleol.

Rydyn ni’n awyddus i glywed gan bobl leol i'n helpu ni i wella ein gwasanaethau. Os ydych chi'n perthyn i grŵp neu sefydliad lleol ac am gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Arbed arian ar eich biliau

Rydyn ni'n gwybod bod cwsmeriaid yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau weithiau ac felly mae gennym amrywiaeth o gynlluniau sy'n gallu lleihau cost eich biliau, naill ai trwy osod mesurydd, capio eich bil trwy un o'n tariffau, neu ddarparu cymorth os ydych mewn dyled i ni. Mae rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau a ffyrdd o wneud cais yma.

Rydyn ni'n gweithio'n ymarferol gyda phartneriaid y gallwn ymddiried ynddynt i ddarparu cymorth uniongyrchol i gwsmeriaid, os ydych am gael rhagor o wybodaeth am fod yn bartner i ni, cliciwch yma.

Os ydych chi'n byw ym Mlaenau Cwm Rhymni gallech fanteisio ar ymweliad arbed dŵr a chynhyrchion arbed dŵr. Bydd un o'n peirianwyr cyfeillgar yn ymweld â'ch cartref ac yn cyflawni archwiliad iechyd 30 munud o hyd ar eich holl offer sy'n defnyddio dŵr, ac yn gosod teclynnau arbed dŵr i'ch helpu chi i arbed dŵr ac arian. Mae ein dyfeisiau syml ond effeithiol yn cynnwys pennau cawod effeithlon, chwistrellau pibell ddyfrio, a bagiau seston. I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad, e-bostiwch waterdemandwales@dwrcymru.com

Am awgrymiadau am ffyrdd o arbed dŵr cliciwch yma

Sicrhau y gallwn ddarparu Gwasanaeth Blaenoriaeth

Rydyn ni'n deall bod sefyllfaoedd ac anghenion pobl yn amrywio, a gallai ein Gwasanaethau Blaenoriaeth fod o gymorth i chi. Os oes gofynion penodol gennych oherwydd eich oedran, iechyd, anhwylder meddygol neu anghenion cyfathrebu ychwanegol, rhowch wybod i ni fel y gallwn addasu ein gwasanaethau at eich anghenion. I gael rhagor o wybodaeth neu gyflwyno cais, cliciwch yma.

Gweithio gyda chwsmeriaid y dyfodol

Bydd ein tîm addysg yn darparu sesiynau yn y gymuned mewn ysgolion lleol ym Mlaenau Cwm Rhymni, gan gyflwyno gwasanaethau ysgol gyfan a gweithdai i ddosbarthiadau unigol.

Bydd cyfle hefyd i’r ysgolion fanteisio ar wasanaeth effeithlonrwydd dŵr, a gweithdy lle bydd y disgyblion yn dysgu sut i ddefnyddio'r dŵr sydd ei hangen arnynt heb ei wastraffu. Bydd hyn yn cynnwys archwiliad dŵr a dyfeisiau arbed dŵr a gaiff eu gosod gan ein partneriaid, Aqualogic.

Gwybodaeth bellach am ein rhaglen addysg

Cadw llygad ar ein rhwydwaith dŵr gwastraff

Yn ogystal â gweithio gyda’r gymuned leol, byddwn ni’n cyflawni archwiliad o iechyd ein rhwydwaith carthffosiaeth.

Mae’n bosibl y gwelwch chi ein partneriaid yn y contract yn yr ardal leol yn cyflawni gwaith rhagweithiol i arolygu’r carthffosydd ar ein rhan. Bydd hyn yn ein helpu ni i wneud yn siŵr bod popeth yn llifo fel y dylai, bod ein pibellau mewn cyflwr da, ac nad yw cwsmeriaid yn fflysio'r pethau anghywir i lawr y draen. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein harolygon rhagweithiol yma.

Yn ogystal ag arolygu'r rhwydwaith carthffosiaeth, rydyn ni'n gweithio gydag ysgolion lleol yn yr ardal i ddod o hyd i gyfleoedd i gadw dŵr wyneb allan o'n system garthffosiaeth, a allai leihau'r tebygolrwydd o lifogydd mewn tywydd gwael.

Gallwch ein helpu ni i leihau'r tebygolrwydd o dagfeydd a llifogydd yn eich cymuned leol trwy ddilyn y cynigion isod:

  • Dim ond pi-pi, pŵ a phapur ddylai fynd i lawr y tŷ bach - rhowch weips, rhai golchi wyneb, babanod, glanhau a weips cyffredin (hyd yn oed os yw'r pecyn yn dweud bod modd eu fflysio, maent yn gallu achosi tagfeydd), nwyddau mislif, cewynnau a ffyn gwlân cotwm yn y bin. Dyma'r prif bethau sy'n achosi tagfeydd.
  • Peidiwch ag arllwys braster, olew, saim a gwastraff bwyd i lawr y sinc, holwch eich Awdurdod Lleol am y ffordd orau o gael gwared ar y pethau hyn.

Gwybodaeth am ffyrdd o'n helpu ni i Stopio'r Bloc yn eich cartref

Prentisiaethau a Recriwtio

Rydyn ni'n gweithio gyda grwpiau ac ysgolion lleol hefyd i godi ymwybyddiaeth am yr amrywiaeth o rolau sydd gennym yn Dŵr Cymru, yn ogystal â'n cynlluniau i Brentisiaid a Graddedigion, ac i annog mwy o bobl ifanc i ymddiddori ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Maths (STEM).

Yn ogystal â'r ysgolion lleol, byddwn ni'n gweithio hefyd gyda'r Ganolfan Waith leol i gynnig cymorth mentora i gwsmeriaid ddatblygu eu sgiliau cyfweliadau, llunio CVs ac ymgeisio am swyddi.

Bydd ein cynllun Prentisiaethau nesaf yn agor yn gynnar yn 2020, cadwch lygad ar ein gwefan i weld y cyfleoedd sydd ar gael.

Cliciwch yma am swyddi