Ein Cynllun Ni: 2020 to 2025
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn gweithio ac yn gwrando ar ein cwsmeriaid ynglŷn â’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol - ac mae 40,000 ohonoch wedi dweud eich dweud am y ffordd yr ydym yn darparu eich gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff.
Rydym wedi teithio ar draws y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu er mwyn clywed eich barn am y ffordd y dylen gynllunio ar gyfer y dyfodol – oherwydd, gan ein bod yn gwmni nid-er-elw, mae eich barn wrth wraidd pob dim yr ydym yn ei wneud.
Mae hyn wedi ein helpu ni baratoi ein cynllun busnes ar gyfer 2020-2025. Mae hwn yn amlinellu ein cynigion i fuddsoddi record o £2.3 biliwn dros y bum mlynedd i 2025, er mwyn medru cynnig y dŵr yfed o’r ansawdd gorau, gwasanaeth dŵr gwastraff diogel a dibynadwy ac amddiffyn yr awyrgylch hyfryd o’n cwmpas.
Bydd hyn yn mynd law yn llaw gyda sicrhau bod eich biliau yn deg a’n fforddiadwy – ac rydym am sicrhau fod y bil aelwyd cyfartalog 5% yn is erbyn 2025.
Mwy o wybodaeth
Er mwyn darllen mwy, ewch i:
- Llythyr Agored i Gwsmeriaid gan Gadeirydd Glas Cymru, Alastair Lyons
- Crynodeb o’n addewidion i chi
- Crynodeb Gweithredol o'n Cynllun Busnes
- Cynllun Busnes llawn
- Llythyr PW i Ofwat - 31ain Ionawr 2020
Dogfennau atodol
Bydd yr holl ddogfennau atodol i’n Cynllun Busnes 2020-25 ar gael yma.
Mae Grŵp Herio ar ran Cwsmeriaid (CCG) annibynnol wedi craffu ar gynllun busnes Dŵr Cymru ar gyfer 2020-2025 hefyd er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu buddiannau cwsmeriaid mewn ffordd briodol. Er mwyn darllen copi o’r adroddiad, cliciwch yma.
Dŵr 2020/PR19
Bob 5 mlynedd, rydyn ni'n ymgynghori â'n cwsmeriaid am ein cynllun busnes ar gyfer y 5 mlynedd nesaf, ac yn ei gyflwyno i Ofwat yn rhan o'r broses o Adolygu Prisiau.
Mae ein cynllun busnes cyfredol ar gyfer 2015-2020 isod, ynghyd â dogfennau sy'n ymwneud â'r Adolygiad nesaf o Brisiau, a gyflawnir yn 2019 ar gyfer cyfnod 2020-25.