Penodwyd Hydref 2013. SID: Ers Gorffennaf 2020

Profiad

Graham yw Prif Swyddog Gweithredol Wales & West Utilities. Mae ganddo brofiad helaeth fel uwch reolwr yn sector y cyfleustodau wrth redeg busnesau dosbarthu trydan a dŵr gyda South Wales Electricity, Hyder a Thames Water. Cyn dechrau gweithio ym myd y cyfleustodau, daliodd swyddi uwch mewn amryw o swyddogaethau ar draws amrywiaeth eang o fusnesau gweithgynhyrchu, gan gynnwys Peirianneg, Cynhyrchu ac Adnoddau Dynol. Mae gan Graham MBA o Ysgol Fusnes Caerdydd ac mae'n Gymrawd i'r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygiad.

Swyddi Anweithredol Cyfredol Eraill

Aelod o Fwrdd y Gymdeithas Rhwydweithiau Ynni.

Swyddi Anweithredol Blaenorol

Cadeirydd CBI Cymru a Busnes yn y Gymuned Cymru. Cyfarwyddwr Anweithredol y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama. Llywodraethwr Prifysgol De Cymru.

Aelodaeth o bwyllgorau

Cadeirydd y Pwyllgor Ansawdd a’r Amgylchedd. Aelod o Bwyllgor Prosiect Cwm Taf a’r Pwyllgor Enwebiadau.